C么r y Penrhyn yn edrych ymlaen at berfformiad Glastonbury

Ffynhonnell y llun, LumenLounge

Disgrifiad o'r llun, Mae'r c么r eisoes wedi perfformio hefo Damon Albarn a'i fand yn Blackpool a'r Palladium
  • Awdur, Nia Cerys
  • Swydd, Gohebydd Newyddion 91热爆 Cymru

Am y tro cynta' yn hanes yr 诺yl, bydd c么r meibion o Gymru'n perfformio yn Glastonbury dros y penwythnos.

Bydd C么r y Penrhyn, o Fethesda, yn rhannu llwyfan gyda Damon Albarn - ddaeth yn enwog gyda'r grwpiau Blur a Gorillaz.

Mae ardal Dyffryn Ogwen wedi ysbrydoli nifer o gerddorion a bandiau dros y blynyddoedd, o'r Maffia a Celt i Gruff Rhys a 9Bach.

Mae'r c么r meibion lleol, C么r y Penrhyn, wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ers canol yr 20fed Ganrif, ond r诺an maen nhw wedi cyrraedd cynulleidfa newydd yn sgil eu gwaith hefo'r cerddor Damon Albarn.

Y c么r sy'n gefndir i Albarn a'i fand The Good, The Bad and The Queen ar y gan Lady Boston.

Disgrifiad o'r fideo, Bydd C么r y Penrhyn yn perfformio yn Glastonbury

Daeth y cysylltiad ar 么l i Albarn ofyn i'w gyd-gerddor Gruff Rhys - canwr y Super Furry Animals, sydd o Rachub ger Bethesda - am awgrym o gorau meibion allai ganu ag o.

Cysylltodd Gruff gyda Rheinallt Puw, aelod o'r c么r a chyn 'roadie' gyda'r Super Furries, ac yna teithiodd cyfarwyddwr y c么r, Owain Arwel Davies, i lawr i Lundain i gwrdd ag Albarn.

Fe gydweithion nhw ar y g芒n Lady Boston, gydag Owain Arwel Davies yn cyfansoddi'r trefniant corawl ei hun.

Yna fe deithiodd y band i fyny i ogledd Cymru i recordio'r sengl gyda'r c么r yng Nghastell Penrhyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Glastonbury yn denu degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn

Ar 么l y castell, g诺yl Glastonbury sy'n goron ar y cyfan.

Bydd C么r y Penrhyn yn perfformio gydag Albarn yn un o wyliau cerddorol mwya'r byd ddydd Sul 30 Mehefin am 18:00.

"'Da ni'n canu tair c芒n gyda The Good, The Bad and The Queen, dwy ohonyn nhw 'naethon ni recordio hefo nhw, ac un o'r albwm flaenorol maen nhw 'di gofyn i ni ganu hefyd," meddai Owain Arwel Davies.

Nid hwn fydd perfformiad byw cynta'r c么r gyda'r band - maen nhw wedi rhannu llwyfan yn Blackpool a'r Palladium yn barod.

Ar 么l Glastonbury, mae 'na gyngerdd arall gyda'r band yn Somerset House yn Llundain ganol Gorffennaf, ac maen nhw hefyd yn ceisio trefnu i Albarn a'r band ddod fyny i berfformio ym Methesda yn y dyfodol agos.

Dywedodd Owain: "Mae o isio dod, oeddan ni wedi dechra' trefnu un dyddiad ond yn anffodus mae'r dyddiad yna wedi disgyn trwodd, ond gawn ni weld.

"Yn sicr 'sa fo'n bersonol yn licio dod, mater o fedru dod 芒'r band i gyd i fyny ydy o."