Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Drakeford: 'Angen i ASau sicrhau bod refferendwm arall'
Mae Prif Weinidog Cymru yn annog Aelodau Seneddol i weithredu ar frys i sicrhau bod Prif Weinidog nesaf y DU yn cynnal refferendwm arall ar Brexit.
Mae Mark Drakeford wedi ysgrifennu at bob AS o Gymru yn gofyn iddyn nhw gyflwyno deddfwriaeth erbyn diwedd Gorffennaf byddai'n galluogi pleidlais arall i gael ei chynnal.
Gobaith Mr Drakeford yw cyflwyno mesur o fewn wythnos i Jeremy Hunt neu Boris Johnson gael eu hethol.
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru yn ei lythyr bod "rhaid gweithredu ar frys" er mwyn rhoi stop i'r "difrod economaidd sy'n cael ei achosi gan ansicrwydd Brexit".
Yn y llythyr mae Mr Drakeford yn egluro sut wnaeth y Cynulliad gefnogi cynnig symbolaidd yn galw am gynnal pleidlais arall ar amodau unrhyw gytundeb Brexit.
Ychwanegodd y byddai hi'n "warthus" pe byddai Llywodraeth y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
"Rydw i felly yn eich annog i barhau i geisio sicrhau deddfwriaeth byddai'n rhwystro gadael heb gytundeb, ond hefyd yn gorfodi'r llywodraeth i gyflwyno mesur refferendwm erbyn 31 Gorffennaf," meddai.
"Mae'n rhaid i hyn ddigwydd ar frys - ni allwn fforddio'r difrod economaidd sy'n cael ei achosi yn ddyddiol o ganlyniad i ansicrwydd yngl欧n 芒 Brexit."