Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim Oedfa ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni
Ni fydd yr Oedfa flynyddol yn cael ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Yn hytrach bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghapel Seion yn Llanrwst.
Fel arfer mae'r rhai sy'n mynd i'r Oedfa - sy'n cael ei threfnu gan fudiad Cyt没n - yn cael tocynnau am ddim i fynd mewn i'r Maes ar y dydd Sul cyntaf.
Yn 么l prif weithredwr Cyt没n, y Parch Aled Edwards, doedd yr Eisteddfod heb ymgynghori gyda Cyt没n cyn penderfynu na fyddai'r Oedfa yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn.
Ond fe ddywedodd yr Eisteddfod mai penderfyniad Cyt没n, yn y pen draw, oedd symud yr Oedfa tu allan i'r Maes.
'Haelioni'r gymuned grefyddol'
Roedd yr Eisteddfod wedi cynnig cynnal y gwasanaeth ar Lwyfan y Maes, ond roedd hynny'n "anymarferol", yn 么l y Parch Aled Edwards.
"Dwi'n meddwl petai'r Eisteddfod wedi gadael ni i wybod yn ddigon cynnar, fe fyddan ni wedi gallu gwneud rhywbeth am y peth," meddai.
"Roedd hi'n ddymuniad gan yr Eisteddfod i fynd i gapel eleni. Mae 'na anawsterau efo hynny am ein bod yn mynd i un enwad, a'i bod hi'n anodd dod o hyd i rywle mewn ardal wledig.
"Fel ymateb i haelioni'r gymuned grefyddol o ran codi arian ar gyfer yr Eisteddfod eleni, fe fyddan ni wedi dymuno parhau efo'r patrwm arferol a'i gynnal o yn y Pafiliwn.
"Mae'r berthynas rhyngon ni 芒'r Eisteddfod yn parhau'n un da, ond fe fyddwn i'n gwerthfawrogi trafodaeth wahanol y flwyddyn nesa'."
'Denu Eisteddfodwyr i ganol y dref'
Mewn datganiad, fe gadarnhaodd yr Eisteddfod mai yng Nghapel Seion fydd y gwasanaeth fore Sul, 4 Awst.
"Trafodwyd lleoliad yr Oedfa yn wreiddiol cyn y Nadolig, ar 么l i Bwyllgor Gwaith yr 诺yl benderfynu y byddai cynnal yr Oedfa oddi ar y Maes yn ffordd o ddenu Eisteddfodwyr i ganol tref Llanrwst yn fuan yn yr wythnos.
"Roedd Cyt没n yn awyddus i barhau i gynnal yr Oedfa ar Faes yr Eisteddfod, felly penderfynwyd arbrofi yn Sir Conwy a chynnal y gwasanaeth ar Lwyfan y Maes, gan sicrhau bod lle i gannoedd o bobl ddod ynghyd i gyd-addoli.
"Yr wythnos hon, mae Cyt没n wedi cysylltu gyda'r Eisteddfod i ddweud eu bod wedi penderfynu symud yr Oedfa i Gapel Seion, Llanrwst wedi'r cyfan, yn hytrach na'i chynnal ar y Maes fore Sul.
"Dyma oedd dymuniad gwreiddiol Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn lleol, ac rydym yn falch bod yr Oedfa am gael ei chynnal mewn gofod pwrpasol, a hynny yn y dref.
"Mae'r Eisteddfod yn dymuno'n dda i'r Oedfa ac yn mawr obeithio y bydd nifer fawr o Eisteddfodwyr yn ei mynychu, ac rydym yn edrych ymlaen at drafod y dyfodol gyda Cyt没n a phartneriaid eraill sy'n cynrychioli amrywiol ffydd yn yr hydref."