Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ystyried trenau cyflymach rhwng Llundain a Caerdydd
Mae trafodaethau wedi dechrau ynglŷn â chyflwyno gwasanaeth trên cyflymach rhwng Caerdydd a Llundain.
Byddai gwasanaeth newydd Grand Union Trains yn herio Great Western Railway - sydd eisoes yn cynnig teithiau rhwng y ddwy brifddinas.
Gallai'r gwasanaeth newydd gymryd 20 munud yn llai i gyrraedd Llundain drwy beidio stopio mewn cymaint o orsafoedd ar hyd y daith.
Dywedodd y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) nad ydynt wedi derbyn cais swyddogol ond eu bod yn ymwybodol bod trafodaethau cynnar wedi dechrau.
Byddai'r gwasanaeth newydd - fyddai ar gael bob awr - yn teithio rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Paddington yn Llundain.
Dywedodd Grand Union mai awr a hanner fyddai'r daith yn ei gymryd, drwy beidio â stopio yn Swindon, Didcot a Reading.
Pe bai'r cais yn llwyddiannus gallai fod ar gael erbyn mis Rhagfyr 2020.
'Profiad o lwyddo'
Mae rheolwr Grand Union Trains, Ian Yeowart wedi lansio gwasanaethau o'r fath yn y gorffennol, gan gynnwys un rhwng gorsafoedd King's Cross yn Llundain a Sunderland.
Ychwanegodd y cwmni bod "tîm profiadol" yn gweithio ar y cynllun a'i bod yn bwriadu gwneud cais am drwydded gweithredu a thystysgrif diogelwch ar y cyd gyda'r cais.
Yn ôl yr arbenigwr trafnidiaeth, Stuart Cole mae gan Mr Yeowart brofiad helaeth o lwyddo yn y maes.
"Mae o wedi targedu rhan prysuraf y lein a'r rhan sy'n cynhyrchu'r elw mwyaf," meddai.
"Bydd hyn yn arwain at fwy o drenau ar y farchnad a cawn weld be fydd hynny'n golygu o ran prisiau."