Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Marwolaeth merch bedair oed yn 'drasiedi ofnadwy'
Clywodd cwest fod merch bedair oed wedi marw ar 么l i'w thad geisio gyrru ar draws ffordd ddeuol ar gyrion Caerfyrddin.
Cafodd Darcy-May Elm ei lladd ar 么l gwrthdrawiad gyda char arall ar yr A40 rhwng Caerfyrddin a Sancl锚r ar 27 Hydref y llynedd.
Yn 么l yr archwilydd fforensig Aled Thomas roedd tad Darcy-May, Daniel Elm, wedi croesi'r ffordd ddeuol o'r l么n orllewinol i'r un ddwyreiniol, ond yna wedi ceisio troi ac ailymuno 芒'r l么n orllewinol.
Ond cafodd ei daro gan y car arall cyn cyrraedd y llain ganol.
'Ar goll hebddi'
Dywedodd y crwner, Mark Layton, ei bod yn bosib fod Mr Elm wedi gwneud camsyniad wrth geisio cyrraedd gorsaf betrol.
Ar 么l y ddamwain roedd Mr Elm o Ddyfnaint wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd wedi gweld y car arall yn teithio lawr y l么n ddwyreiniol.
Cafodd Darcy-May ei chludo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ond bu farw yn ddiweddarach o anafiadau difrifol i'w gwddw a'i brest.
Disgrifiodd y crwner Mark Layton y ddamwain fel "trasiedi ofnadwy".
Fe gafodd Mr Elm anafiadau fydd yn newid ei fywyd, tra bod ei wraig Danielle wedi dioddef anafiadau oedd yn peryglu ei bywyd, ac mae'n parhau i dderbyn triniaeth.
Dywedodd y crwner fod Darcy-May wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.
Mewn datganiad teuluol cafodd ei ddarllen yn ystod y cwest dywedodd ei theulu fod Darcy-May yn ferch "hyfryd, gariadus yr oeddem yn ei charu gymaint, ac yn cael ei haddoli gan ei nain a thaid".
Ychwanegodd: "Rydym yn ei cholli... rydym ar goll hebddi.... Duw a dy fendithia Darcy-May, ein hangel fach."