Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Yr Wyddfa... 3.30am
Os oes yna un llun sy'n profi pa mor brysur ydy'r Wyddfa efallai mai hwn ydi'r un - pobl yn ciwio ar y copa am hanner awr wedi tri y bore.
Ers blynyddoedd roedd Dafydd Coates eisiau mynd i ben y mynydd er mwyn tynnu llun o'r wawr yn torri.
Cerddodd i fyny gyda'i gamera a sach gysgu nos Sadwrn gyda'r bwriad o dynnu llun o'r s锚r cyn aros dros nos i gael ffotograff heddychlon o belydrau cyntaf yr haul yn deffro'r byd islaw.
Ond ar 么l cerdded yr holl ffordd i fyny fe gafodd dipyn o sioc.
"Roedd o'n anhygoel. Ro'n i wedi meddwl cael llun astro, efo'r s锚r a'r Milky Way ond roedd o'n amhosib achos roedd cymaint o bobl yno efo headtorches felly'n sbwylio'r llun."
Fe siaradodd gydag un o drefnwyr taith noddedig wnaeth ddweud bod 850 ohonyn nhw'n cerdded am y copa mewn grwpiau dros nos a ben bore.
Fe gysgodd Dafydd Coates, sy'n byw yn Llangefni ac sy'n ymddiddori mewn ffotograffiaeth, am gwpwl o oriau cyn codi i dynnu llun o'r wawr.
"Nes i ddim cael llawer o gwsg - roedd cymaint o bobl yn cerdded heibio. Pan nes i godi roedd pobl dal ym mhobman.
"Ro'n i am roi'r tripod fyny a chael long exposure ond doeddwn i methu. Yn y diwedd nes i ofyn i bawb symud o'r copa am funud dim ond i fi fedru cael llun.
"Dwi wedi bod eisiau tynnu'r llun ers blynyddoedd ac ar 么l yr holl ymdrech i gerdded fyny ganol nos roeddwn i reit siomedig... ond dyna ni, mae gan bawb hawl i fod yno."