Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y Gymraes a gladdwyd wrth y lan ym Mhatagonia
Wrth i ffilm am ddatrys dirgelwch corff gafodd ei ddarganfod yn yr Ariannin dros 20 mlynedd yn 么l gael ei dangos yng Nghymru eto, mae dynes o sir Conwy wedi bod yn siarad am ei chyfraniad hi at y stori.
Wedi i adeiladwyr ddarganfod esgyrn dynes mewn bedd ym Mhorth Madryn yn 1995 mae archaeolegwyr wedi bod yn ceisio profi mai corff Catherine Roberts, y Gymraes gyntaf i farw yn y Wladfa, oedd y gweddillion.
Ar 么l blynyddoedd o ymchwil fe lwyddon nhw i brofi hynny ar 么l cael sampl DNA gan Nia Ritchie o Gerrigydrudion, sy'n un o ddisgynyddion Catherine Roberts.
Mae'r ffilm ddogfen am y stori, The Patagonian Bones, yn cael ei dangos yn Neuadd Ogwen, Bethesda ar Mai 3.
Roedd Catherine wedi cyrraedd yr Ariannin ar long y Mimosa ar 28 Gorffennaf 1865 gyda 152 o bobl eraill.
Yn 36 oed, roedd hi wedi talu 拢12 am ei thocyn i hwylio o Lerpwl i ddechrau bywyd gwell yn y Wladfa.
Mae cofnodion y Cymry ym Mhatagonia yn nodi mai Catherine oedd y cyntaf i farw yn y Wladfa, er nad oes unrhyw fanylion am ble'n union y cafodd ei chladdu.
Doedd Nia Ritchie, sy'n ymladdwr t芒n, ddim yn gwybod dim o'r hanes yma nes iddi ddarganfod ei bod yn perthyn i Catherine Roberts, ond mae wedi dysgu mwy ers hynny.
Bu'n dweud yr hanes ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru.
"Oedd na fab," meddai Nia, "ac roedd o tua 11 mis oed. Ddaru o ddim cyrraedd y lan ac mi farwodd pan roedden nhw ar yr arfordir.
"Dwi'n cymryd bod hi yn ei gwendid ar 么l geni'r plentyn bach yma. Dydyn nhw methu dweud be oedd hi di marw ohono, roedden nhw'n meddwl mai fever ond dydyn ni methu dweud yn union.
"Ond roedden nhw'n gallu dweud o'r esgyrn ei bod hi'n weddol iach cyn iddi farw."
Pan ddaethpwyd o hyd i'r gweddillion gyntaf, roedd y gwyddonwyr yn gallu dweud mai rhywun o Ewrop oedd hi gan gredu i ddechrau y gallai fod yn gorff oddi ar un o'r llongau lladd morfilod oedd yn hwylio yn yr ardal ar droad y 19eg Ganrif.
Ond roedd tystiolaeth o rai o'r pethau yn y bedd, gan gynnwys botwm a modrwy o Gymru, a'r wybodaeth am farw Catherine Roberts yn fuan ar 么l iddi gyrraedd, yn awgrymu mai ei chorff hi oedd hwn.
Hefyd, roedd asgwrn y g锚n yn dal yn gyfan ac yn dangos fod nam bychan arno - sy'n cyfateb i'r unig lun o Catherine a dynnwyd cyn iddi gychwyn am Batagonia, sydd hefyd yn dangos bod ganddi nam ar ei g锚n.
Ond roedd angen tystiolaeth wyddonol bendant.
Gyda help cofnodion yng Nghymru daethpwyd o hyd i deulu Nia.
"Mi gymrodd 20 mlynedd i ffeindio rywun, fi a pawb arall, sy'n perthyn iddi. Ond rhaid ichi fod yn ferch i ferch - drwy'r mitochondrial DNA.... roedd yn ddarn o waith aruthrol," meddai Nia.
Derbyniodd Nia'r cynnig i fynd i'r Ariannin i wneud y prawf ac mae ei chyfraniad hi yn rhan fawr o'r ffilm ddogfen o 2015 a gynhyrchwyd gan Ricardo Preve.
"Wnes i fwynhau mynd ac roedd y croeso yn aruthrol yno. Ro'n i'n wneud o iddyn nhw, achos roedden nhw eisiau gwybod," meddai.
Mae'r ffilm mewn Sbaeneg gydag isdeitlau Saesneg ond mae'n cynnwys ychydig o Gymraeg hefyd. Mae wedi ei dangos yn yr Ariannin ac yng Nghymru adeg 150 mlwyddiant glaniad y Cymry ym Mhatagonia yn 2015.
Dywedodd Ricardo Preve ar y pryd ei fod yn gobeithio dod i gytundeb gyda darlledwyr o'r DU er mwyn i fersiynau Cymraeg a Saesneg gael eu darlledu.
"Mae'n werth ei gweld a fyswn i'n hoffi ei gweld hi ar S4C," meddai Nia Ritchie.
Hefyd o ddiddordeb: