Rhoi gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf dan fesurau arbennig

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gwasanaethau mamolaeth wedi eu rhannu rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles

Mae adolygiad annibynnol wedi darganfod bod gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg "dan bwysau eithafol" gydag arweinyddiaeth "israddol".

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi rhoi'r gwasanaeth dan fesurau arbennig yn dilyn dwsinau o achosion difrifol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Fe ddaeth yr adolygiad yn dilyn pryderon am farwolaethau nifer o fabanod.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dweud bod newidiadau wedi'u cynllunio, a bod y rheiny eisoes wedi lleddfu'r pwysau ar y gwasanaethau mamolaeth.

'Diffyg gofal a thosturi'

Dywedodd adroddiad arall ar brofiadau mamau bod amryw o ferched "wedi siarad am brofiadau gofidus a gofal gwael".

Daeth yr adroddiad hwnnw i'r casgliad bod pryderon gafodd eu codi ddim wedi'u cymryd o ddifrif, er eu bod yn adlewyrchu problem ddaeth i'r amlwg yn ddiweddarach.

Mae'r ail adroddiad yn dweud: "Roedd nifer o ferched wedi teimlo bod rhywbeth o'i le gyda'u babanod, ac wedi ceisio egluro lefel y boen roedden nhw'n ei brofi, ond cafon nhw eu hanwybyddu neu eu bychanu, a doedd dim gweithredu, gyda chanlyniadau trychinebus fel babanod yn cael eu geni'n farw neu'n marw'n newydd-anedig."

Dywedodd un fenyw wrth yr ymchwilwyr ei bod wedi'i gwneud i deimlo'n ddiwerth, gan ychwanegu bod "diffyg gofal a thosturi" o fewn y gwasanaeth.

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu edrych ar achosion eraill - mor bell yn 么l 芒 2010 - i geisio datgelu "maint y tan-adrodd achosion".

Dywedodd yr adroddiad - gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd - eu bod wedi "clywed straeon gofidus, anodd ac weithiau'n arswydus".

Fe wnaethon nhw ddarganfod 11 ardal oedd o bryder uniongyrchol, gan gynnwys:

  • Diffyg argaeledd obstetrydd ymgynghorol i gefnogi'r ward mamolaeth;
  • Cefnogaeth "rhanedig" gan ymgynghorwyr ar gyfer y ward;
  • Defnydd uchel o staff locwm;
  • Diffyg ymwybyddiaeth a mynediad at ganllawiau arfer da;
  • System lywodraethol oedd ddim yn gweithio fel y dylai;
  • Lefelau staffio ddim yn cydymffurfio ag awgrymiadau gafodd eu gwneud yn 2017.
Disgrifiad o'r fideo, Bu farw babi Sarah Handy ar 么l cael ei geni'n gynnar, ac mae hi'n feirniadol o'r gwasanaeth

Ymddiheuriad

Fe wnaeth prif weithredwr y bwrdd iechyd, Allison Williams, gynnig ymddiheuriad cyhoeddus am "y methiannau sydd wedi cael eu darganfod yn ein gwasanaeth mamolaeth".

Dywedodd bod y bwrdd yn derbyn y canfyddiadau'n llawn ac mai cywiro'r methiannau fydd blaenoriaeth bennaf y sefydliad.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod y canfyddiadau'n "ddifrifol ac yn achos pryder", ac ychwanegodd y byddai'n "peri gofid i deuluoedd a staff sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth".

Ymddiheurodd i'r rhai gafodd eu heffeithio gan y "gofal o ansawdd gwael a ddisgrifiwyd", gan ychwanegu ei fod yn "benderfynol" y bydd y camau gafodd eu cyhoeddi yn "ysgogi'r newidiadau angenrheidiol i wella gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf".

"Mae'n hanfodol bwysig i'r gwaith hwn gynnig tawelwch meddwl i deuluoedd sy'n derbyn gofal ar hyn o bryd yn eu hysbytai."

Gwrthododd alwadau arno i ymddiswyddo gan ddweud "nad oedd yn fater syml mai un person neu un gr诺p oedd yn gyfrifol am y methiannau".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r adroddiad yn awgrymu edrych ar fwy o achosion - mor bell yn 么l 芒 2010

Dadansoddiad Gohebydd Iechyd 91热爆 Cymru, Owain Clarke

Roedden ni wedi clywed sibrydion y byddai'r adroddiad yn un drwg, ond doedd dim llawer yn disgwyl iddo fod mor ddamniol a niweidiol.

Mae pob tudalen yn datgelu un methiant ar 么l y llall.

Yn sicr mae'n un o'r adroddiadau mwyaf beirniadol erioed am ofal iechyd yng Nghymru.

Mae'n amlygu gwasanaeth ar chw芒l, gydag arweinyddiaeth gwael, a chamgymeriadau ddim yn cael eu hadrodd oherwydd y pryder o gael y bai.

Hyn oll, mewn bwrdd iechyd oedd, nes yn ddiweddar, yn cael ei ystyried yn un o'r rhai oedd yn perfformio orau yng Nghymru.

Ydy, mae gwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd nawr dan fesurau arbennig, ond bydd teuluoedd yn gofyn a fydd unrhyw unigolion yn cael eu dal i gyfrif.

Mae'r adolygiad yn gwneud 10 argymhelliad manwl, a daw yn dilyn ymchwiliad gan y bwrdd iechyd ei hun, oedd wedi canolbwyntio ar 43 achos, gan gynnwys 25 digwyddiad difrifol, rhwng Ionawr 2016 a Medi 2018.

Roedd y rhain yn cynnwys wyth babi gafodd eu geni'n farw a phedwar babi newydd-anedig fu farw.

O'r achosion difrifol yma, roedd 20 yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a 23 yn Ysbyty'r Tywysog Charles.

Ond fe wnaeth Mr Gething orchymyn adolygiad annibynnol hefyd, wedi'i arwain gan y ddau goleg brenhinol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd panel annibynnol nawr yn goruchwylio'r gwasanaethau mamolaeth i sicrhau gwelliannau

Fe wnaeth yr adolygiad hwnnw ganolbwyntio ar lywodraethiant, cydymffurfiaeth 芒 safonau cenedlaethol, adrodd achosion difrifol a newidiadau i'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod ymweliad 芒'r unedau mamolaeth ym mis Ionawr, mynnodd y t卯m adolygu y dylai gwelliannau gael eu cyflwyno ar unwaith i ddiogelu cleifion - gan gynnwys cael mwy o oruchwyliaeth gan uwch-feddygon ar y wardiau mamolaeth.

Roedd y bwrdd iechyd eisoes wedi bwriadu cyflwyno newidiadau ers mis Mawrth - gyda gofal arbenigol newydd-anedig yn cael ei ddarparu ar un safle yn unig, Ysbyty'r Tywysog Charles.

Mae uned mamolaeth yn parhau ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg, wedi'i arwain gan fydwragedd, ac felly ar gyfer genedigaethau llai cymhleth yn unig.

Cafodd y bwrdd iechyd ei ailenwi'n Cwm Taf Morgannwg ar ddechrau'r mis, pan gymrodd gyfrifoldeb dros wasanaethau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr hefyd.

Mae'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig - y BMA - nawr am weld mesurau yn cael eu cyflwyno sy'n ei gwneud yn haws i staff godi pryderon.

Dywedodd Dr David Bailey, Cadeirydd Cyngor Cymru o'r BMA: "Mae'n glir fod y rhan fwyaf o staff o fewn y bwrdd iechyd yn gweithio'n galed ac wedi ymroi yn llwyr i'r gwaith, a hefyd wedi bod dan bwysau eithriadol.

"Mae'n siomedig eu bod nhw'n teimlo nad oedd pobl yn gwrando pan gafodd pryderon eu mynegi."

Dywedodd Paul Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: "Rwy'n hynod siomedig ac wedi tristau o glywed fod bwrdd iechyd arall wedi ei roi dan fesurau arbennig o dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

"Mae cyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn erydu oherwydd camreoli, ac mae pawb yn dioddef o ganlyniad i hyn."

Panel annibynnol

Bydd panel annibynnol nawr yn goruchwylio'r gwasanaethau mamolaeth i sicrhau gwelliannau.

Fe fydd hwnnw'n cael ei arwain gan gyn-gadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a chyn-brif gwnstabl Gwent, Mick Giannasi.

Dywedodd: "Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod gweithredu ar argymhellion yr adroddiad, fel y gall mamau a babanod yng ngofal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg dderbyn y gwasanaethau diogel y maen nhw'n eu haeddu."