Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw am wneud mwy i ddiogelu wal 'Cofiwch Dryweryn'
Mae ymgyrchwyr yn dweud fod angen gwneud mwy i ddiogelu wal 'Cofiwch Dryweryn' ger Llanrhystud ar 么l iddi gael ei difrodi gan fandaliaid nos Wener am y trydydd tro eleni.
Ddydd Sadwrn aeth gr诺p o wirfoddolwyr ati i ailadeiladu'r wal, gyda rhai yn aros dros nos ar y safle i sicrhau nad oedd mwy o ddifrod.
Mae ymgyrch codi arian ar y we eisoes wedi codi dros 拢3,000 ers dydd Sadwrn.
Cafodd graffiti 'Cofiwch Dryweryn' ei baentio yn y lle cyntaf yn y 1960au gan y diweddar ysgolhaig Meic Stephens.
Mae'n cyfeirio at foddi pentref Capel Celyn ger Y Bala yn 1965 i greu cronfa dd诺r ar gyfer trigolion Lerpwl.
Yn 么l Helen Mary Jones AC Plaid Cymru Canolbarth a Gorllewin Cymru mae'r wal yn symbol o bwys mawr.
"Mae'n symbol pwysig oherwydd mae angen cofio beth ddigwyddodd yn Nhryweryn.
"Fe wnaeth arwain at newid yng ngwleidyddiaeth Cymru. Yn fuan wedyn cafodd AS Plaid Cymru ei ethol, ac ar 么l hynny roedd pobl yn cwestiynu ein dyfodol fel cenedl a'n gallu i amddiffyn ein hunain," meddai Ms Jones.
"Roedd y wal, pan gafodd ei phaentio gyntaf yn y 1960au, yn gri o ddicter - yn gri o anobaith.
"Mae yna rywbeth eithaf Cymreig am y ffaith fod darn o graffiti wedi tyfu mewn pwysigrwydd ym meddyliau pobl i fod yn symbol cenedlaethol."
Mae'r wal wedi ei lleoli ar dir preifat, ger yr A487 rhwng Aberystwyth a Llanrhystud, ac mae yna alwadau wedi bod i'w diogelu.
Dywedodd Ms Jones fod trafodaethau eisoes wedi dechrau gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion er mwyn dod 芒'r wal yn rhan o berchnogaeth gyhoeddus.
"Mae'n werth ei hamddiffyn oherwydd ei bod yn rhan o'n hanes.
"Yn ddealladwy, mae wedi yspsetio a gwylltio lot o bobl.
"Den ni ddim angen ffens haearn o'i hamgylch na weiren bigog."
Mae Llyn Celyn yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd a dywedodd yr AS lleol Liz Saville Roberts ei bod yn amlwg fod rhywun yn targedu'r wal.
Dywedodd llefarydd ar ran Cadw, corff llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddiogelu amgylchedd hanesyddol, eu bod eisoes wedi cynnal cyfarfod 'adeiladol' gyda Chyngor Cymuned Llanrhystud am ddyfodol Wal Cofiwch Dryweryn.
"Derbyniwyd yn y cyfarfod na ellid rhestru'r safle i'w warchod yn y ffordd sydd ei angen - byddai hynny, mewn gwirionedd, yn ei gwneud yn anos i'w reoli yn y dyfodol.
"Mae angen ateb gwreiddiol a gwahanol a bydd Cyngor Cymuned Llanrhystud yn mynd ati i ystyried ffyrdd o gydweithio 芒 phartneriaid, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i lunio cynllun rheoli hirdymor ar gyfer y safle hwn."