Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Paentio'r gair 'Agari' dros gofeb Tryweryn ger Llanrhystud
Mae rhywun wedi paentio dros wal 'Cofiwch Dryweryn' ger Llanrhystud unwaith eto, dim ond deufis ar ôl iddo gael ei adfer gan ymgyrchwyr.
Daeth i'r amlwg fore Gwener bod y gair 'Agari' wedi cael ei baentio ar y wal.
Mae'r arwydd wedi bod yn amlwg i deithwyr ar hyd ffordd yr A487 rhwng Aberystwyth a Llanrhystud ers iddo gael ei baentio yn y 1960au.
Mae unigolion bellach wedi adfer y gofeb drwy baentio dros y neges.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Ers y digwyddiad hwnnw mae Llywodraeth Cymru wedi trafod y posibilrwydd o ychwanegu'r murlun at restr o gofebion Llywodraeth Cymru.