Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Llew Glyn o'r band Gwilym
Llew Glyn, un chwarter y band Gwilym, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Alffa yr wythnos diwethaf.
Ym mis Chwefror, enillodd y band - sydd wedi bod yn chwarae gyda'i gilydd am lai na blwyddyn - bum gwobr yn Ngwobrau'r Selar 2019, gan gynnwys y gwobrau am y band gorau a'r g芒n orau am eu sengl Catalunya.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Ymweld 芒 fy chwaer fach yn yr ysbyty am y tro cyntaf.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Cheryl Cole.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
S'nam byd yn sefyll allan yn syth, ond dwi'n cas谩u gwneud camgymeriada' mewn gigs!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Llynedd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Cnoi fy ngwinadd a deud j么cs gwael.
O archif Ateb y Galw:
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Felinheli - pentra gorau'r byd!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Hmmm, 'di cael sawl noson anhygoel - ma' Dawns Ryng-Gol Aberystwyth 2018 bendant yn un uchafbwynt!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Licio chwerthin gormod!
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Nesh i fwynhau darllen Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis, un o'r llyfrau wnaeth fy ysbrydoli i ddilyn gradd mewn gwleidyddiaeth.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Ken ac Arthur Rownd a Rownd - ma' nhw i weld fatha bois doniol.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mi fyddwn ni n么l yn y stiwdio dros y Pasg i recordio c芒n newydd!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Yfad cr芒t o Carling ar lannau'r Fenai.
Beth yw dy hoff g芒n a pham?
Ma'n newid bob w'snos - ond ar y funud, Mae'r Dyddiau Gwell i Ddod gan Papur Wal - tiwwwwn a hannar!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Poppadoms, cyri jalfeezi cyw i芒r, a cornetto i orffan!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Liam Gallagher.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Elan Evans