Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Glyn Davies: Pleidlais ASau yn 'gamgymeriad hanesyddol'
"Allwn ni fod yn edrych yn 么l ar y bleidlais [nos Lun] fel y foment pan fu Brexit farw."
Dyna farn yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Glyn Davies yn dilyn pleidlais anarferol yn Nh欧'r Cyffredin ar ddechrau'r wythnos.
Fe bleidleisiodd aelodau o blaid cymryd rheolaeth o'r amserlen seneddol, a bydd cyfres o bleidleisiau sy'n mynegi barn (indicative votes) yn digwydd nos Fercher.
Y bwriad ydy bod ASau yn dod i gytundeb ymysg ei gilydd ar ba ffordd i fwrw 'mlaen gyda'r broses i adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Doedd penderfyniad ASau i gymryd dros fusnes y llywodraeth ddim yn syndod i mi, er fy mod i'n meddwl ei fod yn gamgymeriad hanesyddol," meddai Mr Davies.
Beth ydy arwyddocad y bleidlais nos Lun?
Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol, Gareth Pennant
Fe fydd y Senedd nawr yn dechrau ar y broses o geisio dod o hyn i gynllun B - dewis amgen i gytundeb Brexit y prif weinidog.
Bydd yna gyfres o bleidleisiau yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Mercher gan roi cyfle i Aelodau Seneddol leisio barn ar amryw o opsiynau gwahanol.
Fe all y rheiny gynnwys aelodaeth o'r undeb tollau, y model Norwy, refferendwm arall a diddymu Erthygl 50 - y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd - ymysg pethau eraill.
Y syniad ydy gweld pa un sy'n gallu ennill cefnogaeth y Senedd.
Ond fydd y pleidleisiau yma ddim yn clymu dwylo'r llywodraeth gan eu gorfodi nhw i weithredu.
Mae Theresa May yn barod wedi dweud na fydd hi'n cefnogi cynllun nad oedd ym maniffesto'r Ceidwadwyr.
Beth oedd barn ASau eraill o Gymru?
Dywedodd AS Llafur, Ann Clwyd: "Bydd ASau ddim bellach yn chwarae Russian roulette - ni nawr sydd mewn rheolaeth o Brexit.
"Fe allwn ni nawr ddweud pa gytundeb rydym NI eisiau."
Dywedodd Alun Cairns, AS Ceidwadol ac Ysgrifennydd Cymru, fod y bleidlais wedi ei gwneud hi'n "anoddach nag erioed i gyflawni Brexit".
"Cefnogi'r cytundeb ymadael yw'r unig ffordd i sicrhau Brexit.
"Bydd gan aelodau Llafur sy'n cynrychioli etholaethau 'gadael' gwestiynau anodd i'w hateb," meddai.
"Mae'n anesboniadwy bod hyd yn oed y Brexiteers mwyaf brwd wedi dangos y ffordd i Brexit meddal neu dim Brexit o gwbl," meddai Simon Hart, sy'n AS Ceidwadol.
"Mae'n anodd credu."
Yn 么l yr AS Llafur Tonia Antoniazzi, mae'r bleidlais wedi cychwyn ar y broses o roi p诺er yn 么l i'r senedd ac i ASau.
"Nid cytundeb [Theresa May] yw'r unig ffordd allan o'r sefyllfa yma - mae'n rhaid i'r Prif Weinidog roi'r gorau i fod mor ystyfnig ac anhyblyg," meddai.
"Nid dyna beth wnaeth bobl bleidleisio amdano ac mae angen iddi weithio gyda'r holl ASau ar draws y T欧 i sortio'r llanast yma allan."
Dywedodd David Jones, AS Ceidwadol, nad oedd yn credu bod llawer o wahaniaeth rhwng y cyfres o bleidleisiau sydd wedi'u trefnu gan y meinciau cefn ac un wedi'i drefnu gan y llywodraeth.
"Mae'r Prif Weinidog wedi dweud, yn y naill achos, na fyddai'r llywodraeth wedi'i ymrwymo gan y canlyniadau," meddai.