Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Heriau cyllidol' i wynebu Comisiynydd y Gymraeg newydd
Bydd "heriau cyllidol" yn wynebu deilydd nesaf swydd Comisiynydd y Gymraeg, yn 么l Meri Huws.
Wrth drafod ei saith mlynedd yn y r么l ar raglen y Post Cyntaf fore Mercher, dywedodd Ms Huws bod cyllideb y comisiynydd wedi gweld toriadau niferus dros y blynyddoedd.
Dywedodd bod hefyd angen "edrych o ddifrif" ar y system addysg i sicrhau mwy o siaradwyr Cymraeg a gweithio tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
Daw cyfnod Ms Huws yn y swydd i ben ddiwedd y mis, a'r cyn-Aelod Cynulliad Aled Roberts fydd yn ei holynu.
Toriadau wedi 'rhwystro gwaith'
Dywedodd Ms Huws bod toriadau i'w chyllideb wedi "rhwystro gwaith y byswn i wedi dwli ei wneud".
Esboniodd i swyddfa'r comisiynydd golli chwarter y gyllideb yn ystod ei phedair blynedd gyntaf wrth y llyw.
"Fe fyddwn ni wedi dymuno gwneud llawer mwy o waith hybu a hwyluso'r iaith, y math o waith yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud gyda'r sector chwaraeon a gyda'r sector gelfyddydau.
"Gwneud pethau creadigol, denu pobl i mewn i ddefnyddio'r Gymraeg."
Yn 么l Ms Huws: "Mae heriau cyllidol yn mynd i wynebu'r comisiynydd nesaf.
"Mae'r un gyllideb sy' gyda ni o hyd yn gyllideb fflat ar gyfer y flwyddyn nesa'."
Ychwanegodd y byddai wedi bod "wrth ei bodd" yn gweld mwy o sefydliadau yn gallu dod at ei gilydd o dan y safonau, a petai wedi gallu "gwario mwy ar yr elfen hwyluso a hyrwyddo yna", gan gynnal "mwy o ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth [sefydliadau] am eu hawliau".
'Lot o waith i'w wneud'
Fodd bynnag, mae'n parhau'n obeithiol am gyrraedd y targed a osododd Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Yn 么l Ms Huws, mae angen "edrych o ddifrif ar y system addysg cyn 16 er mwyn sicrhau ein bod ni yn creu siaradwyr".
"Mae angen i ni ddelio 'efo'r hyn sydd wedi ei alw yn 'Gymraeg ail iaith' sydd dim wedi bod yn effeithiol o ran creu siaradwyr," meddai.
"Wedyn mae angen i ni sicrhau bod y siaradwyr ydym ni yn eu creu yn parhau yn siaradwyr, trwy eu tywys trwodd i'r byd gwaith ac i fagu eu teuluoedd eu hunain.
"Mae 'na lot o waith i'w wneud ond 'swn i'n deud mai'r byd addysg yw 90% o'r ateb i'r cwestiwn."
'Creisis cenedlaethol'
Wrth ymateb i sylwadau'r comisiynydd dywedodd pennaeth ysgol uwchradd yn y de ar raglen Taro'r Post ei bod hi'n "greisis cenedlaethol" o safbwynt recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd: "Fel prifathro ysgol yn y cymoedd fy nghonsyrn penna' i yw o le daw mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg i ni gael yn ein dosbarthiadau.
"Mae hwn yn fy marn i yn greisis cenedlaethol. Does neb yn mynd i'r afael 芒 hi.
"Oes mae 'na gynllun i gynnig arian ychwanegol i bobl sy'n dod mewn i'r proffesiwn ond does neb yna i sicrhau bod 'na isafswm o bobl yn dilyn pob pwnc craidd neu pob pwnc o fewn y prifysgolion sy'n cynnig hyfforddiant i ddarpar athrawon."
Wrth ymateb i sylwadau Meurig Jones dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y "Gymraeg yn ganolog" i'r cwricwlwm newydd a byddai dros 拢6m y ncael ei wario "i gyflwyno hyfforddiant drwy'r Gymraeg i athrawon a staff cymorth".
"Rydyn ni hefyd yn estyn ein cynllun cymhelliant hyfforddi athrawon a fydd yn darparu hyd at 拢25,000 i athrawon a fydd yn mynd yn eu blaen i addysgu drwy'r Gymraeg."