Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
ASau yn pleidleisio o blaid oedi'r broses o adael yr UE
Mae aelodau seneddol yn Nh欧'r Cyffredin wedi pleidleisio o blaid gofyn am ganiat芒d yr Undeb Ewropeaidd i oedi ar y broses o adael.
Fe bleidleisiodd 412 o blaid a 202 yn erbyn - mwyafrif o 210.
Bydd y llywodraeth nawr yn ceisio ymestyn trafodaethau Brexit nes 30 Mehefin eleni gyn belled 芒 bod ASau'n cymeradwyo cytundeb Theresa May cyn 20 Mawrth.
Dywedodd y prif weinidog y gallai'r broses o adael gael ei oedi am lawer yn hirach os nad yw ei chytundeb yn cael ei gymeradwyo erbyn hynny.
Ddydd Mercher, fe bleidleisiodd aelodau i wrthod gadael yr UE heb gytundeb, ddiwrnod wedi iddyn nhw wrthod cytundeb diweddaraf Mrs May o 391 i 242.
Ddydd Iau - cyn y bleidlais ar p'run ai i oedi'r broses o adael - roedd ASau meinciau cefn a'r gwrthbleidiau wedi cyflwyno gwelliannau i'r brif bleidlais.
- Gwelliant H - Gofyn am ymestyn Erthygl 50 er mwyn cynnal refferendwm arall;
- Gwelliant I - Galluogi i ASau reoli busnes y senedd ddydd Mercher nesaf. Fe fyddan nhw'n defnyddio'r amser i drafod, a gallai arwain at bleidleisio ar nifer o opsiynau gwahanol am Brexit;
- Gwelliant E - Gwrthod cytundeb y prif weinidog a'r syniad o adael heb gytundeb. Galw hefyd am drefnu amser yn y senedd i D欧'r Cyffredin weithio tuag at gael mwyafrif o blaid strategaeth wahanol;
Cafodd y cynigion eu gwrthod gan aelodau.
Fe benderfynodd yr AS Llafur dros Y Rhondda, Chris Bryant, dynnu ei welliant yntau yn 么l.
Roedd wedi galw ar ASau i wrthod pleidleisio eto at gytundeb ymadael Theresa May am y trydydd tro.