Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Her i Gymru droi 100% at ynni adnewyddadwy erbyn 2035
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 91热爆 Cymru
Gallai Cymru ddarparu 100% o'i hanghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035 o dan gynllun newydd "uchelgeisiol" gan arbenigwyr polisi.
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i glustnodi mwy o'i chyllideb i'r sector ynni gwyrdd.
Mae adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu hefyd y gallai 20,150 o swyddi gael eu creu os fydd y targed yn cael ei gyrraedd.
Yn 么l y prif weinidog, Mark Drakeford, mae'r adroddiad yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru gyda'i chynlluniau carbon isel.
Cyllid 'annigonol'
Gallai'r ymdrech hefyd ychwanegu gwerth 拢7.4bn i economi Cymru erbyn 2035 a chael effaith sylweddol ar allu'r wlad i gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd, yn 么l yr arbenigwyr.
Mae'r cynllun 10 pwynt yn benllanw tair blynedd o ymchwil, a bydd yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa o wleidyddion ac aelodau o'r diwydiant yng Nghaerdydd ddydd Iau.
Dywedodd Shea Buckland-Jones o'r sefydliad y gallai ynni adnewyddadwy "ffurfio rhan allweddol o hunaniaeth Gymreig" yn y dyfodol, ond bod angen mwy o fuddsoddiad.
Er bod rheolaeth dros wahanol agweddau o bolisi ynni'r wlad wedi'i rhannu rhwng llywodraethau Cymru a'r DU, dywedodd fod yr ymchwil yn dangos bod nifer o'r pwerau sydd eu hangen yn nwylo gweinidogion Bae Caerdydd.
Ar hyn o bryd mae ychydig dros 2% o gyllid Llywodraeth Cymru wedi'i glustnodi ar gyfer ynni, sy'n "annigonol i wneud cynnydd gwirioneddol" yn 么l yr adroddiad.
Mae'r ymchwil yn annog gweinidogion i gyhoeddi cyfnod o 12-18 mis o "ysgogiad economaidd carbon isel" ar unwaith, wedi'i ariannu naill ai drwy eu cyllideb neu bwerau benthyca newydd.
Byddai modd defnyddio'r arian i ddatblygu prosiectau ynni sy'n eiddo i bobl leol, gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi a sicrhau bod modd trydanu cerbydau carbon isel ar draws y wlad.
'Maint yr her yn eithafol'
Mae'r datblygiadau eraill y mae'r sefydliad am eu gweld yn cynnwys:
- Defnyddio rheoliadau cynllunio a thir cyhoeddus i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy newydd;
- Sicrhau bod rhwng 5% a 33% o brosiectau newydd uwchlaw 5MW yn rhan o berchnogaeth leol neu gymunedol;
- Mynd i'r afael 芒 "diffyg gwybodaeth ac arbenigedd cyffredinol" am y sector mewn sefydliadau cyhoeddus allweddol;
- Ymgymryd 芒 "dull newydd radical" o edrych ar drafnidiaeth gan gynnwys cynllun datgarboneiddio cynhwysfawr ar gyfer y sector;
- Datblygu ynni morol fel gwasanaeth Cymreig arbenigol yn yr economi fyd-eang.
"Mae yna fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd," meddai Mr Buckland-Jones.
"Rwy'n credu mai un o'n negeseuon clir o'r cynllun terfynol yw bod angen arweinyddiaeth ar hyn. Mae maint yr her yn eithafol ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu."
Ysgol yn arwain y ffordd
Mae ysgol gynradd Gymraeg Ysgol y Bedol yn Nyffryn Aman wedi arbed tua 拢15,000 ar eu biliau trydan dros y pedair blynedd diwethaf ar 么l i 200 o baneli solar gael eu gosod ar do'r adeilad.
Mae'r disgyblion yn dysgu am ynni adnewyddadwy yn eu gwersi, gan ddefnyddio sgr卯n sy'n dangos faint o ynni mae'r paneli'n ei gynhyrchu.
Yn 么l Eli, sy'n ddisgybl yn yr ysgol, mae eu hymdrechion i arbed ynni yn arwyddocaol.
"Mae'n bwysig oherwydd mae hinsawdd y byd yn cael effaith," meddai.
"Mae eisiau i ni neud hwn oherwydd does dim da yn dod o beidio arbed ynni."
Yn 2017 roedd 48% o ddefnydd trydan Cymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, gyda Llywodraeth Cymru am weld y ffigwr yn codi i 70% erbyn 2030.
Gwresogi adeiladau yw un o'r heriau mwyaf wrth geisio sicrhau bod ein holl anghenion ynni yn cael eu darparu drwy ddulliau gwyrdd yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn dweud y dylai gwleidyddion ganolbwyntio ar fesurau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau i leihau'r galw.
Mae'r arbenigwyr hefyd am weld deunydd inswleiddio gwell yn cael ei roi mewn 870,000 o gartrefi yng Nghymru a chefnogaeth i dechnolegau adnewyddadwy fel pympiau gwres.
Gallai 170,000 o bympiau gael eu dosbarthu ar draws y wlad i gyd-fynd 芒 ffynonellau gwresogi eraill gan gynnwys canolfannau bionwy a biomas.
'Chwyldro adnewyddadwy'
Dywedodd Mr Drakeford, fydd yn annerch cynhadledd ble fydd yr adroddiad yn cael ei lansio,聽bod Cymru'n gwneud cynnydd da.
"Y llynedd roedd hanner y trydan gafodd ei ddefnyddio yn dod o ffynonellau adnewyddadwy," meddai.
"Mae gyda ni'r potensial i arwain chwyldro adnewyddadwy ond does dim modd i ni wneud hyn ar wah芒n. Mae gan bawb yng Nghymru ran i'w chwarae.
"Mae angen gweithredu ar frys i leihau ein hallyriadau carbon yn ddramatig. Yma yng Nghymru, mae newid ar y gweill.
"Ry'n ni wedi gosod targed uchelgeisiol i sicrhau bod 70% o ddefnydd trydan Cymru yn cael ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030."