Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gobaith am bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg i Gaerdydd
- Awdur, Elin Clarke
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Radio Cymru
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi dweud ei fod yn disgwyl y bydd pedwaredd Ysgol Uwchradd Gymraeg yn cael ei hagor yn y ddinas o fewn degawd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Huw Thomas wrth raglen Manylu 91热爆 Radio Cymru y bydd Ysgol Plasmawr hefyd yn cael ei ehangu o fewn y ddwy flynedd nesa'.
Daw hyn wedi galwadau gan ymgyrchwyr a gwleidyddion i fynd i'r afael 芒'r prinder llefydd mewn addysg Gymraeg yn y brifddinas.
Yn 么l ymchwil Manylu bydd mwy o blant eisiau dechrau mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd ymhen dwy flynedd na sydd o lefydd ar gael ar hyn o bryd.
Eleni fe wnaeth dwy allan o dair ysgol uwchradd cyfwng Cymraeg y ddinas dderbyn mwy o geisiadau am lefydd i ddisgyblion blwyddyn 7 na'r nifer sydd ar gael.
"Mae gennym ni strategaeth i gynyddu'r nifer o ddisgyblion yn y ffrwd Gymraeg yn y ddinas felly mae hynny'n arwydd da bod 'na gynnydd," meddai Mr Thomas.
"'Da ni'n cydnabod fod 'na gynnydd ac yn amlwg 'da ni'n asesu'r cynnydd o flwyddyn i flwyddyn.
"Byddwn ni'n edrych yn y lle cyntaf i ehangu un o'r ysgolion uwchradd yn y tymor canol rhyw 30 o lefydd, a ry'n ni wedi gwneud cais yn barod i Lywodraeth Cymru am arian i wneud hynny.
"Yn y tymor hir wedyn mae'n rhaid edrych ar beth ydy'r angen am bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd."
600 o lefydd
Ar hyn o bryd mae gan ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg Caerdydd 600 o lefydd ar gyfer disgyblion blwyddyn 7.
Mae ffigyrau sydd wedi dod i law Manylu yn dangos y bydd y llefydd hyn wedi'u llenwi erbyn Medi 2020.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod cynnydd o oddeutu 16% wedi bod yn nifer y disgyblion sy'n dechrau mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn y ddinas yn y chwe blynedd ddiwethaf.
Eisoes mae dwy o ysgolion uwchradd Cymraeg Caerdydd yn derbyn mwy o geisiadau am lefydd na'r nifer sydd ar gael.
Hyd yma mae 'na lefydd gwag wedi bod ers i Ysgol Bro Edern - trydedd ysgol uwchradd Cymraeg y ddinas - gael ei hagor yn 2012.
Ond gyda disgwyl i niferoedd derbyn disgyblion blwyddyn 7 yr ysgol honno hefyd fod yn llawn erbyn Medi 2020 mae ymgyrchwyr wedi rhybuddio y gallai rhai disgyblion beidio cael addysg Gymraeg oni bai y bydd 'na gynnydd mewn llefydd.
"Mae'n amlwg fod raid i'r cyngor agor ysgol uwchradd ychwanegol yng Nghaerdydd," meddai Mabli Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
"Mae'r achos dros hynny yn eitha' clir, yn enwedig os ydyn ni'n mynd i weld y twf sydd angen yn y sector cynradd hefyd.
"Dyw e ddim yn sefyllfa gynaliadwy ble 'da ni'n edrych ar ysgolion yn llenwi mor gyflym dros y blynyddoedd i ddod."
'Hyfyw yn ariannol'
Mae pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Iwan Pritchard, yn dweud bod rhaid cwrdd 芒'r galw am addysg Gymraeg, ond bod diogelu'r ysgolion presennol yr un mor bwysig ag agor ysgol newydd.
"Mae agor ysgol gyfun yn broses ddrud iawn ac yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni mae angen sicrhau hefyd fod y tair ysgol sydd yma ar hyn o bryd yn hyfyw yn ariannol ac mae hynny'r un mor bwysig.
"Mae diogelu'r tair ysgol bresennol yr un mor bwysig a sicrhau darpariaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sydd yn mynd i ddod fyny i'r sector uwchradd ymhen rhai blynyddoedd."
Mae arweinydd y cyngor, Mr Thomas yn cytuno 芒 hynny, gan ddweud ei bod yn "bwysig cymryd y penderfyniad ar yr adeg iawn heb danseilio'r tair ysgol sydd mewn lle yn barod".
Profiad teulu
Doedd ddim modd i Angharad Naylor o'r Mynydd Bychan dderbyn lle i'w phlant Ifan, saith, a Deio, pedair, yn eu hysgol ardal gan ei bod yn llawn ers nifer o flynyddoedd.
Pan fu'n amser pennu ysgol i Ifan fe ddewisodd y teulu'r ysgol agosaf iddyn nhw bryd hynny, ond cafodd cais Deio ar gyfer yr un ysgol ei wrthod.
"O chi'n poeni, am Deio a'r profiad y bydde fe'n ei gael, ond hefyd ansicrwydd fel rhieni am lle bydd e'n mynd," meddai Ms Naylor.
"Roedd hi'n gyfnod ansicr iawn i ni fel rhieni ond hefyd yn gyfnod emosiynol iawn hefyd."
Yn dilyn proses ap锚l gymrodd fisoedd, cafodd Deio le yn yr ysgol.
"Roedd hi'n deimlad o frwydr ar lefel bersonol iawn - brwydro i gael addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardal lle byddai disgwyl bod 'na ddarpariaeth ar gael," meddai Ms Naylor.
Dywedodd Mr Thomas fod y cyngor yn arolygu patrymau cyfraddau derbyn addysg Gymraeg ac yn cyflwyno cynlluniau addas i gwrdd 芒'r cynnydd mewn galw.
"'Da ni am weld Caerdydd yn chwarae rhan lawn yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd eu targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050," meddai.
"'Da ni wedi newid ein strategaeth addysg Gymraeg yn y flwyddyn ddiwethaf i nid yn unig ateb y galw ond ceisio gwthio'r galw hynny i annog mwy o rieni efallai o gefndir di-Gymraeg i anfon eu plant i ysgolion Cymraeg."
Mae'r cynnydd yn y galw am addysg Gymraeg yn cael ei adlewyrchu ar draws Cymru.
Fel rhan o'r targed i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 mae 'na ymrwymiad y dylai 30% o blant Cymru dderbyn addysg Gymraeg erbyn 2031.
Ond yn 么l ffigyrau rhagdybio Cyngor Caerdydd dim ond tua 15% o ddisgyblion uwchradd Caerdydd fydd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg erbyn hynny.
Mae'r ganran honno'n debyg i'r ffigyrau ar gyfer Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam.
Galw am fod yn 'fwy gweithredol'
Dywedodd Rhiannon Packer, sy'n uwch ddarlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Metropolitan Caerdydd, bod hyn yn sialens fawr i awdurdodau lleol.
"Os y'n ni'n ystyried strategaeth y llywodraeth mae eisiau i'r awdurdodau addysg fod yn fwy gweithredol yngl欧n 芒 sut maen nhw'n mynd i ymateb i'r gofyn hynny," meddai.