Eisteddfod Genedlaethol 2022 yn Rhondda Cynon Taf

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod am gynnal y brifwyl yn Rhondda Cynon Taf yn 2022.

Yn 么l datganiad ar y cyd gan yr Eisteddfod a Chyngor Rhondda Cynon Taf, fe wnaeth y cyngor fynegi diddordeb mewn cynnal yr achlysur yn 么l yn 2017, ac mae'r trafodaethau rhagarweiniol wedi parhau ers hynny.

Nid yw'r brifwyl wedi ymweld 芒 Rhondda Cynon Taf ers 1956, pan gafodd yr Eisteddfod ei chynnal yn Aberd芒r.

Er nad yw union leoliad yr 诺yl wedi ei phenderfynu eto, y bwriad y tro hwn yw "cynnal yr achlysur mewn lleoliad canolog".

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd wedi ymweld 芒 Merthyr Tudful a Threorci yn y gorffennol.

'Hybu'r iaith yn yr ardal'

Dywedodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, bod yr 诺yl "wrth eu boddau" o gyhoeddi eu bod yn mynd i Rondda Cynon Taf.

Ffynhonnell y llun, Betsan Moses

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Betsan Moses ei bod o'r farn bydd cynnal yr Eisteddfod yn yr ardal yn hybu'r iaith yno

Cafodd yr Eisteddfod fodern gyntaf ei chynnal yn Aberd芒r ym 1861, a dywedodd Ms Moses ei bod yn "edrych ymlaen at weithio gyda'r gymuned leol ar draws yr ardal i ddod 芒'r 诺yl i'r sir yn yr unfed ganrif ar hugain".

"Rydyn ni o'r farn y bydd hyn yn helpu i hybu'r iaith yn yr ardal, gyda'r 诺yl a'r prosiect cymunedol yn cefnogi'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050," meddai.

'Hwb economaidd'

Dywedodd arweinydd y cyngor, Andrew Morgan, ei fod yn "anrhydedd" i'r sir, gan ychwanegu ei fod yn "sicr y bydd yr achlysur yma yn cynnig cyfleoedd economaidd pwysig i Rondda Cynon Taf".

"Mae gan yr achlysur y potensial i roi hwb economaidd mawr trwy roi'r cyfle inni arddangos yr hyn sydd gan ein Bwrdeistref Sirol i'w gynnig fel cyrchfan diwylliannol i ymwelwyr," meddai.

Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan y byddai cynnal yr Eisteddfod yn yr ardal yn "gyfle i arddangos treftadaeth ddiwylliannol unigryw Rhondda Cynon Taf".

"Mae'r gwaith nawr yn dechrau i gynnal achlysur y bydd Cymru a Rhondda Cynon Taf yn falch ohono yn 2022," meddai.

"Er mwyn sicrhau bod yr achlysur yn llwyddiant, bydd ymgysylltiad y gymuned yn allweddol wrth inni ddatblygu ein cynlluniau."