Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Neil McEvoy eisiau cynrychioli Plaid Cymru unwaith eto
Mae'r Aelod Cynulliad Neil McEvoy wedi dweud ei fod yn gobeithio cynrychioli Plaid Cymru eto, unwaith daw ei waharddiad o'r blaid i ben.
Yn 么l Mr McEvoy, mae gan y blaid "gyfle arbennig" i ennill sedd Gorllewin Caerdydd os ydynt yn caniat谩u iddo ddychwelyd.
Mae'r AC annibynnol yn debygol o wynebu gwrthwynebiad chwyrn gan rai o aelodau'r blaid.
Mae gwaharddiad Mr McEvoy o'r blaid yn dod i ben ar 19 Mawrth.
Cafodd y gwleidydd o Gaerdydd ei ddiarddel o Blaid Cymru yn dilyn ymchwiliad i'w ymddygiad yn ystod Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn 2017.
Cafodd y gwaharddiad gwreiddiol o 18 mis ei leihau i flwyddyn yn dilyn ap锚l.
Dywedodd AC Canol De Cymru: "Rydw i'n credu yng Nghymru ac ym mhopeth mae'r blaid yn ei chynrychioli. Mae yna gyfle arbennig yng Ngorllewin Caerdydd i drechu'r Prif Weinidog."
Roedd Mr McEvoy o fewn 1,176 pleidlais o guro Mark Drakeford yn etholaeth Gorllewin Caerdydd yn Etholiad Cynulliad 2016.
Ychwanegodd ei fod yn bwriadu ceisio am y sedd unwaith eto yn 2021, a bod methu ar y cyfle i gipio sedd Prif Weinidog Cymru oherwydd y digwyddiadau arweiniodd at y diarddel yn "hurt".
Gwrthododd Mr McEvoy honiadau fod ei berthynas gyda'i gydweithwyr yn y rhanbarth ac o fewn y blaid wedi dirywio.
'Gwrthwynebu'n gryf'
Bydd unrhyw gais gan Mr McEvoy i ailymuno 芒 Phlaid Cymru yn cael ei ystyried gan bwyllgor y blaid.
Dywedodd un ffynhonnell y byddai Mr McEvoy yn annhebygol o gael ei dderbyn pe bai'r penderfyniad yn cael ei roi ger bron ACau Plaid Cymru.
"Byddai rhai yn gwrthwynebu'n gryf pe bai'n cael ailymuno 芒 gr诺p y blaid yn y Cynulliad... mae rhai ohonom yn ei chael hi'n anodd iawn i weithio gydag ef o ddydd i ddydd," meddai.
Yn 么l llefarydd ar ran Plaid Cymru, mae Mr McEvoy yn rhydd i wneud cais i ailymuno 芒'r blaid ar 么l i'w waharddiad ddod i ben ar 19 Mawrth.