Cyfrannu at ddyfodol y Gymraeg ar-lein

Ar y cyfan, Saesneg yw iaith y we. Mae dros 5,801,000 o erthyglau iaith Saesneg wedi eu cyfrannu i Wikipedia, ac o'r 10 gwefan fwyaf poblogaidd yn 2018 - rhestr sy'n cynnwys Google, Facebook a Twitter - mae saith ohonyn nhw yn Saesneg.

Fodd bynnag, erbyn heddiw, mae modd defnyddio rhai o'r gwefannau yma yn Gymraeg. Mae'r diolch am hyn i wirfoddolwyr sy'n cyfieithu rhyngwynebau gwefannau fel Facebook i'r Gymraeg.

Ond dywed Lowri Johnston, sy'n rhedeg y busnes digidol dwyieithog Mesen yng Nghaerfyrddin, fod angen gwneud mwy o waith er mwyn sicrhau fod y Gymraeg ar y we yn gallu ffynnu ac esblygu. Dyma sut y gallwch chi helpu.

Ffynhonnell y llun, Mesen/Celf Calon

Cynhaliwyd nawfed cynhadledd ddechrau Chwefror yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Dyma oedd y tro cyntaf i fi fynychu'r diwrnod, ac un o'r prif bethau darodd fi yn ystod y dydd oedd y galw am gyfranwyr er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle teilwng ar y we.

Mae'r rhai ohonom ni sydd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol wedi hen arfer 芒 gweld sylwadau dilornus am ein hiaith a'n gwlad. Felly beth am ddefnyddio'r egni negyddol yna a'i droi yn rhywbeth positif, trwy gyfrannu at ddyfodol ein hiaith?

Mae nifer o bobl a oedd yn mynychu Hacio'r Iaith sydd yn gwneud hyn yn barod yn ddi-ddiolch ac oherwydd angerdd at yr iaith a thechnoleg. Beth am ymuno 芒 nhw? Dyma rai o'r prosiectau y gallwch chi gyfrannu atyn nhw yn 2019.

Common Voice Cymraeg

Faint ohonoch chi sydd yn defnyddio peiriant sy'n adnabod llais, fel Alexa neu Google, ar eich ff么n? Mae Common Voice yn brosiect gan Mozilla sydd yn casglu lleisiau pobl mewn gwahanol ieithoedd, fel bod peiriannau yn gallu adnabod yr hyn rydych chi'n ei ddweud wrthyn nhw, a gallu cynnig ymateb. Ers bron i flwyddyn bellach mae Mozilla wedi lansio y Gymraeg fel un o'r ieithoedd mae'n casglu gwybodaeth amdani.

Bydd y data yn rhydd i'w ddefnyddio ac yn galluogi darparu rhaglenni a pheiriannau ar gyfer y deillion ac anabl, cynorthwywyr personol ac ar gyfer llywio mewn ceir. Mae modd cael rhain yn Saesneg yn barod - mae'n hen bryd bod y Gymraeg ar gael hefyd!

Ffynhonnell y llun, Mozilla

Mae angen pobl sy'n siarad Cymraeg o bob rhan o Gymru a thramor i gyfrannu - gorau po fwyaf o amrywiaeth mae'r peiriant yn ei gael. Gallwch gyfrannu drwy recordio eich llais yn darllen brawddegau a thrwy ddilysu lleisiau pobl eraill - mae'r ddwy elfen yn bwysig.

Sut allwch chi gyfrannu?

Ewch i wefan neu defnyddiwch yr ap sydd am ddim ar gyfer Android ac Apple. Does dim angen cyfrif i gyfrannu - mae wir yn cymryd rhai munudau i gychwyn arni.

Yn bersonol dwi'n ceisio rhoi pum munud dros baned i gyfrannu pum brawddeg, ac i ddilysu pum brawddeg drwy ddefnyddio'r ap ar fy ff么n. Dwi'n mwynhau gwneud yn fawr, yn enwedig pan mae'r brawddegau yn eithaf random.

Beth am ei wneud yn weithgaredd teulu (gall pawb gyfrannu!) neu yn ystod noson glwb Ffermwyr Ifanc neu Ferched y Wawr? Ewch amdani - mae'r dyfodol angen eich lleisiau chi!

Wicidata

Un o'r prif ffynhonnell ar gyfer gwybodaeth ar y we yw'r Wikipedia enwog. Ond ydych chi'n defnyddio y fersiwn Gymraeg - Wicipedia? Mae cyfranwyr ar draws Cymru wedi bod yn ychwanegu gwybodaeth yn y Gymraeg am bob math o bynciau - ac mae llawer mwy ar y gweill. Elfen bwysig yw'r data sydd yn cael ei gofnodi yn rhan o hyn, a dyma yw Wicidata.

Ffynhonnell y llun, Wikidata

Cronfa ddata yw sydd am ddim, ac yn agored i bawb ei ddefnyddio ar y we. Mae'n cael ei gyhoeddi dan ddatganiad Parth Cyhoeddus, sy'n caniat谩u ailddefnyddio'r data mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Gallwch ei gop茂o, ei addasu, ei rannu a hynny heb ofyn am ganiat芒d! Mae llawer o dudalennau Wicipedia yn cymryd gwybodaeth gan Wicidata ar draws holl ieithoedd y prosiect.

Sut allwch chi gyfrannu?

Un o fy hoff brosiectau yw - prosiect sydd yn casglu gwybodaeth am fenywod Cymru yn y Gymraeg. Mae'n brosiect newydd sydd yn galw am gyfraniadau. Mae wir angen gwella cynrychiolaeth Merched Cymraeg ar Wicipedia Cymraeg a Wicidata.

Beth am drefnu gwneud gyda chwpwl o ffrindiau dros baned? Heb ein cyfraniad byddan nhw'n mynd yn angof ar y we Gymraeg!

Mapio Cymru

Wedi diflasu edrych ar fapiau ar y we sy'n llawn enwau Saesneg? Mae'n hen bryd newid hyn, a dyma yw bwriad . Mae'r prosiect yn gwneud galwad penodol am gyfraniadau Cymraeg sydd yn cynnwys enwau strydoedd, ffermydd ac adeiladau - yng Nghymru, ond hefyd ar gyfer enwau llefydd ar draws y byd. Mae llawer o bobl yn fyd-eang yn cyfrannu nodweddion i'r map ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, OpenStreetMap

Sut allwch chi gyfrannu?

Eisiau mapio eich milltir sgw芒r yn Gymraeg? Dyma gyfarwyddiadau gan d卯m Mapio Cymru:

1. Ewch i wefan

2. Cofrestrwch trwy ddefnyddio eich e-bost neu gyfrif Google

3. Mewngofnodwch - Rydych nawr yn barod i gyfrannu!

. Unwaith eich bod chi wedi cyfrannu enw Cymraeg bydd yn ymddangos ar y map y diwrnod canlynol, ac fe fyddwch yn gallu bod yn smyg eich bod wedi cyfrannu at ddyfodol enwau Cymraeg.

Ewch amdani i gyfrannu a byddwch yn rhan o sicrhau dyfodol y Gymraeg ar y we!

Eisiau cyfarfod pobl wyneb yn wyneb a chyfrannu at ddyfodol y Gymraeg ar y we? Ymunwch 芒'r ar 2 Mawrth yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Cewch groeso cynnes a chyfle i ddysgu mwy am Hacio Hanes Cymru!

Hefyd o ddiddordeb: