Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwrthod cais dyn anabl am le parcio ger ei gartref
Mae dyn o Flaenau Ffestiniog sydd 芒 chyflwr Alzheimer ac yn anabl wedi dweud bod penderfyniad i wrthod cais am le parcio anabl y tu allan i'w gartref yn achosi "poen" iddo.
Mae Meirion Williams a'i wraig, June - sydd hefyd yn gofalu amdano - yn poeni am orfod parcio ymhellach i ffwrdd o'u cartref, sydd ar ffordd yr A470 yn y dref.
Yn 么l Mrs Williams mae ei gwr yn aml yn drysu ac yn poeni y gallai gael damwain os oes rhaid iddo gerdded ymhellach na'r angen i'r car.
Dywedodd Cyngor Gwynedd nad oedd yn gallu caniat谩u safleoedd parcio anabl ar briffyrdd dan ofal Llywodraeth Cymru.
Mae'r llywodraeth wedi dweud y byddai'n barod i drafod y mater os yw'r cyngor yn dymuno hynny.
Fel arfer, awdurdodau lleol sy'n darparu neu ddynodi safleoedd parcio ar briffyrdd.
Ond pan ofynnodd y cwpl i Gyngor Gwynedd am ganiat芒d am safle y tu allan i'r t欧, fe gafodd y cais ei wrthod gan mai Llywodraeth Cymru sydd 芒 chyfrifoldeb am yr A470.
Mae'n rhaid i'r p芒r fynychu nifer o apwyntiadau ysbyty ac maen nhw'n dibynnu'n fawr ar y car.
Yn 么l Mrs Williams, byddai cael safle parcio ar gael trwy'r amser yn gweud bywyd yn llawer rhwyddach ac yn fwy diogel.
"Y peth gwaethaf 'efo rhywun 'efo Alzeimer's ydy methu gwybod lle mae o'n byw. Os dwi 'di gorfod parcio yn bellach o'r t欧, cael Meirion allan o'r car, dio'm yn si诺r iawn.
"Fydd o'n deud, lle dwi'n mynd? Lle dwi'n byw? Be' dwi'n da yn fama?
"Dyna ydy'r broblem fwyaf. Os nad ydy'r car o flaen y t欧 mae hi'n broblem cael hyd iddo."
'Dim gobaith'
I Mr Williams, mae cael car ei wraig y tu allan i'w cartref yn ddefnyddiol er mwyn iddo ddod o hyd i'w ffordd yn 么l i'r ty, os ydy o'n mentro allan ond yn anghofio lle mae o.
"Ma' hon yn ffordd fast... Os ydw i'n digwydd mynd oddi ar y step ac off y pafin, fysa ganddo chi ddim gobaith."
Daeth y broblem i'r amlwg yn ystod y tywydd garw'n ddiweddar.
Cliriodd Mrs Williams lwybr yn yr eira i gyraedd y car ond ar 么l dod yn 么l doedd y safle parcio ddim ar gael a bu'n rhaid i'r ddau barcio'n bell o'r t欧 a cherdded drwy'r eira.
Fe gododd June y broblem gyda'r person oedd wedi parcio y tu allan i'r ty, ond dyweddodd y gyrrwr nad oedd unrhyw arwydd yn awgrymu bod rhaid cadw'r safle'n glir.
Ychwanegodd Ms Williams: "Dwi 'di cael llythyr ganddyn nhw [Cyngor Gwynedd] i ddeud bo' ni ddim am ei gal o am ein bod ni ar yr A470.
"Fedrwn ni ddim gwneud dim byd arall wedyn.
"Dylie nhw wedi rhoi mwy o help i ni a mynd at y llywodraeth. Ffordd o flaen ein ty ni ydy o. I ni, dydy'r A470 yn golygu dim byd."
Dywedodd Cyngor Gwynedd bod yr awdurdod yn "ystyried unrhyw gais" am le parcio anabl ar ffyrdd dan eu rheolaeth, ond gan nad ydynt yn gyfrifol am gefnffyrdd, "mae unrhyw geisiadau am safle parcio ar y ffyrdd hynny yn fater i Lywodraeth Cymru ystyried".
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai angen "er mai Cyngor Gwynedd sydd 芒'r pwerau perthnasol, mae'n rhaid cael caniat芒d Gweinidogion Cymru er mwyn i Gyngor Gwynedd allu gwneud y gorchymyn sydd angen".
"Byddai Llywodraeth Cymru yn fwy na pharod i drafod y mater gyda Chyngor Gwynedd ar gais yr awdurdod, er mwyn cadarnhau os y byddai darparu neu dynodi safle parcio yn bosib."
Hyd yn hyn, nid yw Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau os ydyn nhw wedi cysylltu 芒'r llywodraeth i drafod y mater.
Dydy June a Meirion Williams ddim wedi derbyn rhagor o fanylion gan naill gorff ac maen nhw'n dweud bod yr oedi a'r dryswch yn achosi straen diangen.