Pump o wobrau i Gwilym yn seremoni Gwobrau'r Selar

Ffynhonnell y llun, Y Selar

Disgrifiad o'r llun, Ifan Pritchard, prif leisydd Gwilym yn derbyn un o'r wobrau ar ran y grŵp nos Sadwrn

Y grŵp ifanc o Wynedd, Gwilym oedd prif enillwyr Gwobrau'r Selar a gafodd eu cynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth dros y penwythnos.

Daeth y band i'r brig mewn pump categori - y band gorau, y gân orau am 'Catalunya', y record hir orau am Sugno Golau, y gwaith celf am glawr Sugno Golau a'r fideo cerddoriaeth gorau am fideo'r gân 'Cwîn'.

Cafodd y Wobr Cyfraniad Arbennig ei chyflwyno i Mark Roberts a Paul Jones oedd yn chwarae gyda dau o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru - Y Cyrff a Catatonia.

Mae enillwyr eraill y seremoni yn cynnwys Alys Williams, Lewys a'r cyflwynydd Tudur Owen.

'Hollol anhygoel'

Daw llwyddiant Gwilym flwyddyn yn unig wedi iddyn nhw ennill y wobr band neu artist newydd gorau yn yr un seremoni.

Dywedodd Ifan Pritchard, gitarydd a phrif leisydd Gwilym: "Rydan ni wedi bod yn dod i'r Gwobrau i fwynhau yn y gynulleidfa, ac roedd perfformio yma llynedd a gadael gydag un wobr yn wych.

"Mae mynd adra efo pump gwobr eleni jyst yn hollol anhygoel, ac rydan ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi pleidleisio drostom ni."

Aled Rhys Jones oedd cyfarwyddwr y fideo ar gyfer y gân 'Cwîn.

Ffynhonnell y llun, Y Selar

Disgrifiad o'r llun, Mark Roberts a Paul Jones yn derbyn y Wobr Cyfraniad Arbennig

Am yr ail flwyddyn, Alys Williams oedd enillydd yr Artist Unigol Gorau, gan ddod i'r brig o flaen Mei Gwynedd a'r Welsh Whisperer.

Cafodd wybod ei bod wedi ennill gan Branwen Williams o'r band Siddi - sef enillydd gwobr Seren y Sîn 2019.

I osgoi neges Twitter, 1
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 1

Roedd Lewys, enillydd yr Artist neu Band Newydd Gorau, ymhlith y perfformwyr yn y gwobrau, a gafodd eu cynnal dros ddwy noson am y tro cyntaf eleni.

Yr enwebiadau ar y rhestr fer am y Cyflwynydd Gorau oedd Huw Stephens, Garmon ap Ion, a Tudur Owen - ond fel yn 2018, Tudur aeth â hi unwaith eto.

Cafodd y wobr ei chyflwyno iddo gan Gerallt Pennant ddydd Gwener wrth iddo ddarlledu'n fyw ar Radio Cymru.

I osgoi neges Twitter, 2
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 2

Clwb Ifor Bach sy'n cipio'r wobr am yr Hyrwyddwr Annibynnol Gorau - lai na phythefnos ar ôl cyhoeddi cynlluniau i ehangu eu safle yng Nghaerdydd.

Roedd Recordiau Cosh a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd ar y rhestr fer.

Ffynhonnell y llun, Y Selar

Disgrifiad o'r llun, Alffa - un o artistiaid Recordiau Côsh - a'u gwobr am lwyddo i gael dros filiwn o ffrydiadau ar Spotify

Maes B aeth a'r wobr eto eleni yng nghategori'r Digwyddiad Byw Gorau, er bod yr achlysur yn wahanol i'r arfer yng nghyd-destun maes heb ffiniau wrth gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd.

Croesa'r Afon gan Trŵbz oedd enillydd y wobr am y Record Fer Orau.

Fe gyhoeddwyd ym mis Ionawr mai Mark Roberts a Paul Jones o'r Cyrff a Catatonia oedd enillwyr y Wobr Cyfraniad Arbennig.

Roedd Mellt a'r Cledrau ymhlith rhai o'r bandiau a berfformiodd fersiynau eu hunain o glasuron Y Cyrff neu Catatonia yn ystod y seremoni fel teyrnged i'r ddau.

Ffynhonnell y llun, Y Selar

Disgrifiad o'r llun, Pump rheswm i wenu - daeth Gwilym i'r brig ymhob categori lle roedden nhw wedi cael eu henwebu

Dywedodd prif drefnydd Gwobrau'r Selar, ac Uwch Olygydd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar, Owain Schiavone, bod llwyddiant Gwilym yn wers i unrhyw fand ifanc sydd am wneud eu marc.

"Flwyddyn yn ôl roedden nhw'n dechrau sefydlu eu hunain ac yn cipio'r wobr 'Band neu Artist Newydd'. Maen nhw wedi defnyddio hynny fel sbardun, codi momentwm ac adeiladu cynulleidfa sylweddol.

"Does dim dwywaith eu bod nhw'n boblogaidd dros ben, ac roedd yr ymateb i'w set wrth gloi y Gwobrau'n gadarnhad o hynny."

Ychwanegodd fod y gwobrau wedi denu dros 1,500 o bobl dros y ddwy noson, gan danlinellu "galw mawr am gerddoriaeth fyw yn y Gymraeg, a gwerthfawrogiad o'r artistiaid gwych sydd gyda ni ar hyn o bryd."

Enillwyr llawn Gwobrau'r Selar 2019

Cân Orau: Catalunya - Gwilym

Hyrwyddwr Annibynnol Gorau: Clwb Ifor Bach

Cyflwynydd Gorau: Tudur

Artist Unigol Gorau: Alys Williams

Band neu Artist Newydd Gorau: Lewys

Digwyddiad Byw Gorau: Maes B

Seren y Sin: Branwen Williams

Gwaith Celf Gorau: Sugno Gola - Gwilym

Band Gorau: Gwilym

Record Hir Orau: Sugno Gola - Gwilym

Record Fer Orau: Croesa'r Afon - Trŵbz

Fideo Cerddoriaeth Gorau: Cwîn - Gwilym

Gwobr Cyfraniad Arbennig: Mark Roberts a Paul Jones