Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryder am ymchwiliad gwrth-Semitiaeth Jenny Rathbone
Roedd diffyg ystyriaeth i'r gymuned Iddewig yn y ffordd y gwnaeth y Blaid Lafur ddelio ag ymchwiliad gwrth-Semitiaeth, yn 么l cynrychiolwyr y gymuned yng Nghymru.
Roedd ymchwiliad i ymddygiad yr Aelod Cynulliad Jenny Rathbone ar 么l iddi awgrymu y gallai pryderon diogelwch Iddewon mewn Synagog yng Nghaerdydd fod "yn eu pennau eu hunain".
Fe wnaeth Ms Rathbone dderbyn rhybudd ffurfiol, ond dyw manylion yr ymchwiliad ddim wedi'u datgelu.
Dywedodd ei bod hi'n "ymddiheuro o waelod calon" am y sylwadau ac am achosi gofid.
Gwahardd o'r gr诺p
Cafodd AC Canol Caerdydd ei gwahardd o'r gr诺p Llafur yn y Cynulliad a'i chyfeirio at y blaid yn ganolog wedi i'w sylw ddod i'r amlwg ym mis Tachwedd.
Ond cafodd Ms Rathbone ei haildderbyn i'r gr诺p cyn i'r ymchwiliad gael ei gwblhau.
Daeth i'r amlwg yr wythnos ddiwethaf bod yr ymchwiliad wedi dod i ben a bod Ms Rathbone wedi derbyn rhybudd ffurfiol a'i gorchymyn i fynychu hyfforddiant, ond dyw Llafur ddim wedi cyhoeddi manylion am yr ymchwiliad na sut gyrhaeddon nhw eu canlyniadau.
Dywedodd cadeirydd Cyngor Cynrychiolwyr Iddewig De Cymru, Laurence Kahn wrth raglen 91热爆 Wales Live: "Ry'n ni'n bryderus am y diffyg tryloywder.
"Mae'n dangos y diffyg gofal gan y Blaid Lafur yn Llundain ac ym Mae Caerdydd. Y cwestiwn yw, ydyn nhw'n ceisio bodloni'r gymuned Iddewig a delio gyda'n pryderon?
"Os mai 'ydy' yw'r ateb yna dylen nhw fod yn rhoi'r holl wybodaeth i ni."
Ychwanegodd ei fod yn credu ei bod yn "amhriodol" bod Ms Rathbone wedi cael ei haildderbyn i'r gr诺p Llafur yn y Cynulliad cyn i'r ymchwiliad gael ei gwblhau.
'Angen datganiad cyhoeddus'
Dywedodd Stanley Soffa o Synagog Ddiwygiedig Caerdydd bod cwestiynau i'w gofyn o'r Prif Weinidog Mark Drakeford.
"Ry'n ni angen eglurhad am amserlen aildderbyniad Ms Rathbone i'r gr诺p," meddai.
"Ry'n ni hefyd angen iddo wneud datganiad cyhoeddus am wrth-Semitiaeth yn y Blaid Lafur."
Mewn recordiad ddaeth i'r amlwg ym mis Tachwedd fe wnaeth Ms Rathbone awgrymu y gallai pryderon diogelwch Iddewon mewn Synagog yng Nghaerdydd fod "yn eu pennau eu hunain".
Dywedodd hefyd bod ymddygiad cas tuag at Iddewon yn cael ei ysgogi gan Lywodraeth Israel, a bod gan Iddewon ym Mhrydain "gyfrifoldeb" i hyrwyddo heddwch yn y Dwyrain Canol.
Fe gafodd Ms Rathbone ei beirniadu hefyd am drydar ym mis Awst y llynedd yn honni bod Llywodraeth Israel yn cynnal "ymgyrch didostur" yn erbyn Jeremy Corbyn, gan gwestiynu pam nad oedd y cyfryngau yn ymchwilio i'r "lefel yma o ymyrraeth o dramor yng ngwleidyddiaeth y DU".
Mae 91热爆 Cymru wedi gofyn i'r Blaid Lafur pa elfennau o'r uchod gafodd eu hystyried gan y panel oedd yn ymchwilio i ymddygiad Ms Rathbone, a sut gyrhaeddon nhw'r penderfyniad i roi rhybudd ffurfiol iddi.
Wedi i'r ymchwiliad gael ei gwblhau dywedodd y Blaid Lafur wrth 91热爆 Cymru bod yn rhaid i Ms Rathbone drefnu hyfforddiant gyda'r Community Safety Trust (CST).
Ond dywedodd y CST nad yw Ms Rathbone na'r Blaid Lafur wedi cysylltu 芒 nhw.
Mewn datganiad yr wythnos ddiwethaf dywedodd Ms Rathbone: "Rwy'n ymddiheuro o waelod calon am y sylwadau a'r gofid y gwnaethon nhw achosi, i fy etholwyr a'r gymuned Iddewig yn ehangach.
"Rydw i wedi meddwl am fy nghamgymeriadau ac eisiau gwneud popeth yn fy ngallu i wella fy nealltwriaeth o wrth-Semitiaeth er mwyn ei adnabod a brwydro yn ei erbyn."
Ymateb Llafur
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur eu bod yn ystyried pob cwyn am wrth-Semitiaeth "yn ddifrifol iawn".
Ychwanegodd: "Rydym yn ymchwilio i'r cwynion yn unol gyda'n rheolau a gweithdrefnau cyn cymryd camau disgyblu priodol."
Dywedodd ffynhonnell arall o fewn Llafur wrth 91热爆 Cymru nad yw'r blaid yn gwneud sylwadau ar achosion unigol gan fod y broses cwynion yn gyfrinachol, ond dywedodd fod Ms Rathbone wedi "cydweithio'n llawn gyda'r ymchwiliad ac wedi dangos ei bod yn deall pam fod ei sylwadau yn annerbyniol".
Nid yw'r blaid wedi dweud pam y cafodd Ms Rathbone ddychwelyd i gr诺p Llafur yn y Cynulliad cyn bod yr ymchwiliad wedi'i gwblhau.
Wales Live, 91热爆 One Wales, nos Fercher am 22:35.