'Ail-droseddu er mwyn cael llety a bwyd' yng Nghaerdydd

Ffynhonnell y llun, Getty

Disgrifiad o'r llun, Mae gan Carchar Caerdydd le i 820 o ddynion

Mae nifer o droseddwyr sy'n cael eu rhyddhau o Garchar Caerdydd yn dweud eu bod yn bwriadu ail-droseddu er mwyn cael to uwch eu pen a phryd o fwyd, yn 么l adroddiad newydd.

Mae'r Bwrdd Monitro Annibynnol nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu polisi ar gartrefi cyn-garcharorion, am nad oes gan hanner y dynion sy'n cael eu rhyddhau lety i fynd iddo.

Yn 么l yr adroddiad mae carcharorion hefyd yn dweud eu bod yn pryderu am fynd i un hostel lleol oherwydd adroddiadau am drais, achosion o ddwyn a phwysau i gymryd cyffuriau.

Mae'r bwrdd monitro hefyd wedi s么n am un achos lle cafodd dyn ei ryddhau o'r carchar gyda 44c yn ei boced ac heb unman i gysgu'r noson honno.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai eu bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau llety addas i garcharorion pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gynnydd mewn trais a hunan-niweidio yng Ngharchar Caerdydd.

Ymhlith y rhesymau dros hunan-niweidio mae bwlio, rhwystredigaeth a'r galw am declyn e-sigarennau.

'Camau adeiladol'

Mae'r adroddiad yn nodi bod y carchar wedi cyflwyno polisi ym Mai 2018 i beidio ildio i ofynion carcharorion a oedd yn bygwth hunan-niweidio, a bod nifer yr anafiadau wedi syrthio'n sylweddol ers hynny.

Ond mae pryder o hyd, meddai'r adroddiad, am y gofal iechyd meddwl sydd ar gael, gan fod nifer o'r timau cyswllt yn brin o staff a bod sawl un o'r carcharorion yn cael eu rhyddhau o'r carchar heb gael eu gweld gan y timau.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Mae'r gwasanaeth yn cydnabod y camau adeiladol sydd wedi cael eu cymryd gan y carchar, megis darparu gweithiwr allweddol i bob carcharor er mwyn eu monitro a lleihau'r achosion o drais a hunan-niweidio.

"Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau llety addas i garcharorion pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau, a'u bod yn cael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl."