Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Y gwir yw nad ydym ni'n cofio Tryweryn o gwbl'
Wedi i rywun baentio'r enw 'Elvis' dros slogan eiconig Cofiwch Dryweryn ar ochr yr A487 ger Llanrhystud, cafwyd ymateb chwyrn gan lawer oedd yn teimlo fod y weithred yn sarhad ar ddarn o graffiti sydd erbyn hyn yn cael ei gyfrif yn gofeb genedlaethol i foddi pentref Cymraeg Capel Celyn yn 1965.
Ond mae gan rai farn wahanol am y 'fandaliaeth'.
"...dwi'm yn siwr am lefel y ffys wir," meddai'r academydd y Dr Huw Williams ar Twitter.
Ychwanegodd fod y ffaith bod y wal yn cael ei phaentio nawr ac yn y man yn rhan o ddefod "sy'n dda inni"
"Yn anffodus chi'n methu peintio n么l y cymunedau sy'n parhau i ddadfeilio ledled Cymru; naturiol bod yn dawedog am bethau sy'n anodd, si诺r o fod."
Er yn cydnabod yr angen am symboliaeth mae Huw Williams yn dweud mai "da byddai sianelu'r angerdd at bethau llai symbolaidd hefyd..."
Yn 么l Bethan Mair, golygydd llyfrau a sylwebydd teledu, dydy pobl Cymru ddim yn 'cofio Tryweryn' yn ymarferol, graffiti ai peidio.
"Ydi, mae'r fandaliaeth yn ofnadwy," meddai ar ei thudalen Facebook, "na, does gan rai pobl ddim parch; byddai, mi fyddai gwneud hynny i'r Banksy'n cael llawer mwy o sylw.
"OND mae'n hawdd gresynu at fandaleiddio darn o 'fandaliaeth' - llawer mwy anghyffyrddus yw gresynu at bolisi cynllunio Cyngor Gwynedd, neu'r ffaith fod Mynytho'n cael ei hysbysebu fel Upper Llanbedrog gan asiantwyr tai. Bod pentref fel Pontrhydyfen, oedd yn lle Cymraeg 40 mlynedd yn 么l, wedi llithro o'n gafael.
"Bod Cymro'n gallu byw yng Nghlynnog Fawr heddiw heb fod yr un siaradwr Cymraeg yn byw yn y tai sydd o'i gwmpas.
"Y gwir yw nad ydym ni'n cofio Tryweryn o gwbl, neu fasen ni ddim yn gadael i hyn ddigwydd bob dydd, ymhob twll a chornel."
Cafodd graffiti 'Cofiwch Dryweryn' ei baentio yn y lle cyntaf yn y 1960au gan y diweddar ysgolhaig Meic Stephens yn fuan wedi boddi Capel Capel.
Mae graffiti wedi ei baentio dros y gwreiddiol sawl gwaith ers hynny.
Cafodd ei adfer yn 2010 a hefyd yn 2008 - geiriau gafodd eu canu gan y band Y Ffug yn y g芒n Cariad Dosbarth Canol Cymru hefyd.
Yn 2015 ychwanegwyd y geiriau Cofiwch Aberfan i'r graffiti a chyn hynny roedd rhywun wedi sgrifennu'r enwau Bev a Mike arni.
Mae'r slogan gwreiddiol yn 么l ar y wal bellach wedi i griw ifanc fynd ati i'w adfer.
"Rhaid cofio fod hwn yn fwy na graffiti," meddai un o'r paentwyr Elfed Wyn Jones, ar raglen Taro'r Post.
"Fod hwn yn nodweddiadol o'r chwedegau, fod y darn o waith yma yn cyfleu mwy neu lai y teimlad a'r boen Gymraeg oedd wedi codi yn y chwedegau pan foddwyd Tryweryn.
"Dim ryw lun bach ar y wal ydi hwn, mae hwn yn rhan o'n hanes ni fel cenedl rwan ac mae difrodi'r gwaith yma fel cael gwared o ran o Gymru - rhan o'r teimlad Cymraeg, rhan rydyn ni angen ei warchod fel rhan o'n hanes," meddai gan ddweud bod angen gwneud yn si诺r nad yw hyn byth yn digwydd eto.
Ond doedd un arall o ymatebwyr Taro'r Post, David Griffiths o Lanllyfni, ddim yn gweld unrhyw bwynt mewn ailbaentio'r graffiti.
"Unwaith ydach chi wedi difrodi rhywbeth fel'na - dio ddim yr un paent," meddai.
"Roedd y person sgwennodd o am y tro cyntaf... oedd o'n neud o yn ei wylltineb, yn ei dempar ei hun efo'r p诺er tu n么l iddo fo. Ond mae'r hogiau yma'n baentio fo r诺an mewn dwy noson, dim dyna be' ddigwyddodd o pan gafodd o ei baentio'r tro cynta'.
"Mae 'run fath 芒 tasa gynnoch chi hen ddresal Gymraeg a tasach chi'n malu hi. Tasach chi'n ailbuldio hi, dim hen ddresal Nain sydd gynnoch chi wedyn naci?"
Dywedodd Adam Phillips o fudiad Balchder Cymru ei fod wedi bod o'r farn yn y gorffennol bod rhwydd hynt i unrhyw un wneud be fynnon nhw gyda graffiti, ond mae wedi newid ei feddwl.
"Ers talwm o'n i'n meddwl os mae rhywun eisiau fandaleiddio fo, os mae rhywun eisiau gwneud rhywbeth, gown nhw wneud achos mae'n achosi rhyw fath o deimlad, a graffiti ydi graffiti.
"Mae pobl yn ail-greu dros y gwaith yma o hyd... ond yn meddwl amdano fo r诺an a gwrando ar bawb yn siarad dwi'n meddwl, na, efallai dylen ni wneud rhywbeth am hwn."
Mae llawer yn s么n am warchod y graffiti fel cofeb genedlaethol, rhywbeth roedd y diweddar Meic Stephens ei hun am ei weld hefyd.
Ond mewn mae Ifan Morgan Jones yn galw am godi cofeb barhaol ar lan cronfa dd诺r Tryweryn. Mae'r cerflunydd John Meirion Morris eisoes wedi creu cerflun bychan o'i weledigaeth ar gyfer cofeb o'r fath sy'n darlunio aderyn yn codi o'r llyn.
Mae Wogan Jones ar Twitter yn awgrymu y fod cynllun bwriadol tu 么l i baentio dros Cofiwch Dryweryn.
"Pe bai Saunders, Valentine a DJ o gwmpas heddiw, beth fydden nhw'n gwneud i drio tanio cenedlaetholdeb Cymry dof i weithredu? Fandaleisio cofeb #CofiwchDryweryn efallai?" meddai.