Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Torri cwrs nyrsio Bangor 芒 'goblygiadau hirdymor'
Mae pryderon dros gynnig fyddai'n gweld toriadau i gwrs Nyrsio Anabledd Dysgu ym Mhrifysgol Bangor yn sgil ymdrechion i arbed 拢775,000.
Mae'r cwrs yn hyfforddi nyrsys i weithio 芒 phlant a phobl sydd ag anableddau dysgu, ond byddai'r cynnig dan ystyriaeth yn golygu lleihau'r t卯m darlithio.
Byddai un o'r prif ddarlithwyr yn colli ei swydd, a phryder myfyrwyr yw'r effaith posib ar safon y dysgu, a goblygiadau hirdymor ar gleifion ag anableddau dysgu yn y gogledd.
Dywedodd y brifysgol bod yr ymgynghoriad "er mwyn ymateb i'r tirlun ariannol heriol", ac na fydd unrhyw benderfyniad cyn i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben.
'Dim digon da'
Dan y cynllun byddai'r drefn bresennol o gael tri darlithydd - un gradd 9 a dau gradd 8 - yn newid i ddau ddarlithydd, un gradd 8 ac un gradd 7.
Pryder myfyrwyr ydy'r effaith posib ar safon y dysgu ar y cwrs, safon gofal hir dymor i gleifion ag anableddau dysgu yng ngogledd Cymru, a'r effaith yn gyffredinol ar gyrsiau nyrsio eraill Prifysgol Bangor.
Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn ymwybodol o 15,000 o oedolion sydd ag anabledd dysgu - ond mae'n bosib bod o leiaf 60,000 yn ddiarwybod i'r gwasanaeth.
Cafodd deiseb yn erbyn y cynnig ei greu gan Lucy Spencer, sy'n astudio'r cwrs yn y brifysgol.
Dywedodd: "Dyw cael gwared ar ddarlithydd gradd 9 ac apwyntio darlithwyr gradd 8 a gradd 7 ddim digon da.
"Mae'n fy mhoeni i pam nad yw'r brifysgol yn teimlo bod angen darlithydd gradd 9 ar nyrsio anabledd dysgu."
Ar hyn o bryd, mae'r darlithydd gradd 9 yn cyfrannu tuag at dri modiwl ar y rhaglen nyrsio cyffredinol hefyd.
Mae'r modiwlau yma'n dysgu myfyrwyr nyrsio plant, nyrsio oedolion a nyrsio iechyd meddwl sut i addasu i gleifion sydd ag anableddau dysgu.
Dywedodd Ms Spencer y byddai'r gwasanaeth yma yn "amhosib" pe bai llai o ddarlithwyr nyrsio anableddau dysgu ar gael.
'R么l hollbwysig'
Mae cyfarwyddwr Mencap Cymru, Wayne Crocker, yn dweud eu bod yn bryderus am unrhyw benderfyniadau fyddai'n effeithio'r gefnogaeth academaidd sydd ar gael i nyrsys anabledd dysgu.
"Mae nyrsys anabledd dysgu yn chwarae r么l hollbwysig mewn ysbytai ar draws y wlad, fel rywun i nyrsys cyffredinol droi am gefnogaeth arbenigol wrth drin claf sydd ag anableddau dysgu," meddai.
"Fe fydd y golled i'r brifysgol ac i nyrsys anabledd dysgu'r dyfodol yn trechu'r budd ariannol."
Dim ond ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru mae modd astudio nyrsio anableddau dysgu yng Nghymru, ac ym Mangor yn unig mae modd astudio cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Pryder arall myfyrwyr yw'r effaith gall y toriadau gael ar ddarpariaeth y pwnc drwy'r Gymraeg.
Dywedodd Mr Crocker: "Mae tystiolaeth yn dangos bod trin cleifion yn eu mamiaith 芒'r gallu i leihau straen ac arwain at ryddhad cyflymach o'r ysbyty.
"Mae gan Fangor r么l hanfodol yn sicrhau bod 'na ddigon o nyrsys anabledd dysgu iaith gyntaf Cymraeg yn ymuno 芒'r bwrdd iechyd."
'Cam yn 么l'
Mae 2019 yn nodi 10 mlynedd ers marwolaeth Paul Ridd yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Clywodd cwest fod Mr Ridd, oedd ag anableddau dysgu, wedi marw o achosion naturiol, ond bod gwendidau mawr yn y gofal nyrsio a gafodd wedi cyfrannu at ei farwolaeth.
Ers hynny mae ei deulu wedi ymgyrchu i wella safonau gofal i gleifion sydd ag anableddau dysgu.
"Mae'r wybodaeth a'r arbenigedd sydd gan ddarlithwyr yn hanfodol os ydym ni'n mynd i atal mwy o farwolaethau fel un ein brawd, Paul." meddai llefarydd ar ran y Paul Ridd Foundation.
"'Da ni wedi gweithio yn ddiflino i wella dealltwriaeth o anableddau dysgu ymysg nyrsys, ac felly yn gweld toriadau o'r fath fel cam yn 么l yn hytrach na cham ymlaen."
Cyfnod heriol
Mae disgwyl i'r brifysgol ddod i benderfyniad ar 么l i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben ddiwedd ar 1 Chwefror.
Dywedodd llefarydd: "Er mwyn ymateb i'r tirlun ariannol heriol sy'n wynebu llawer yn y sector Addysg Uwch yn y DU ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori 芒 staff a myfyrwyr ynghylch nifer o gynigion a fydd yn galluogi'r brifysgol i gwrdd 芒'i thargedau ariannol."
Cafodd y cynnig ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2018, ac mae'r brifysgol wedi pwysleisio eu bod yn "hapus i glywed gan ei myfyrwyr a'i staff" ac "na fydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu cymryd nes i'r cyfnod ymgynghorol ddod i ben".
Dywedodd Si芒n Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon: "Mae'n hanfodol fod gan nyrsys y sgiliau cywir i gefnogi pobl gydag anableddau dysgu.
"Mae'n fater o bryder felly fod Prifysgol Bangor yn trafod y posibilrwydd o doriadau i'r Adran Nyrsio ac yn benodol i hyfforddiant nyrsio ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu.
"Pen draw hyn fyddai dirywiad yn y gwasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ar draws y gogledd.
"Rhaid meddwl yn ofalus am oblygiadau toriad o'r math."