Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Teithiau hirach wedi difrod sylweddol i bont restredig
Mae pobl sy'n teithio ar y prif ffordd rhwng Pwllheli a Nefyn yn wynebu siwrne hirach - hyd at wyth milltir mewn rhai achosion - wedi i gerbyd achosi difrod sylweddol i bont gul dros y penwythnos.
Bu'n rhaid cau'r A497 rhwng Efailnewydd a Boduan yn ardal Pont Bodfel ddydd Sadwrn.
Fe chwalodd ddarn o'r wal ar un ochor o'r bont a syrthio i Afon Rhyd-hir.
Mae arbenigwyr yn asesu'r sefyllfa a dydy Cyngor Gwynedd ddim yn gallu cadarnhau pa bryd mae'r bont yn debygol o ailagor.
Dywedodd llefarydd: "Yn dilyn adroddiad fod cerbyd wedi achosi difrod i Bont Bodfel ar yr A497 rhwng Efailnewydd a Boduan ar fore Sadwrn, fe wnaeth swyddogion y Cyngor gynnal arolwg brys o'r bont.
"Fe wnaeth yr arolwg gadarnhau fod y strwythur wedi ei ddifrodi yn sylweddol ac fe osodwyd gwyriad yn syth.
"Mae peirianwyr strwythurol yn cynnal arolygon manwl pellach o'r bont i asesu'r difrod a'r camau nesaf y bydd angen eu cymryd i gyfarch y sefyllfa.
"Yn y cyfamser, mae Pont Bodfel ar gau ac rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i ddilyn yr arwyddion gwyriadau sydd yn eu lle."