Pêl-law - y gêm genedlaethol 'goll'

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Pêl-law Cymru

Disgrifiad o'r llun, Daeth 1,200 o bobl i wylio gêm bencampwriaeth pêl-law yn Nelson yn 1906

Ar drothwy pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae'n bosib y bydd ambell un yn codi'r drafodaeth eto p'run ai rygbi neu bêl-droed yw gêm genedlaethol Cymru. Wel yr un o'r ddau mae'n debyg.

Bu Carolyn Hodges o wasg Y Lolfa yn siarad ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru am "gêm genedlaethol goll Cymru", pêl-law.

Mae pêl-law yn gêm bwysig iawn yn hanes cymdeithasol Cymru meddai Carolyn ac yn ei anterth yn denu tyrfaoedd enfawr ar hyd a lled Cymru. Dyma gemau Uwchgynhrair neu Pro14 y canol oesoedd, meddai.

Erbyn heddiw, dim ond un cwrt pêl-law sydd ar ôl yng Nghymru a hynny yn Nelson, Cwm Rhymni, lle mae Kevin Dicks a'i gyfoedion yn dal i chwarae.

Cyn-löwr o Gwm Rhymni yw Kevin sydd wedi chwarae a dyfarnu gemau ers 50 mlynedd ac mae ffrwyth ei flynyddoedd o ymchwil i'r gamp i'w weld yn ei lyfr Handball: The story of Wales' first national sport.

Ymhell cyn i rygbi gael ei ddyfeisio yn 1823 a chyn i reolau pêl-droed gael eu gosod yn swyddogol yn 1848 hon oedd gêm fawr y werin yng Nghymru.

Gêm debyg i sboncen yw pêl-law, ond eich bod yn ei chwarae gyda'ch llaw yn hytrach na raced.

Mae'r bêl yn cael ei thaflu yn erbyn y wal ar gwrt traddodiadol sydd â thair wal.

Disgrifiad o'r llun, Bob Braen a Kerry Wilde, dau gyn-bencampwr, yn chwarae ar y cwrt yn Nelson a godwyd yn yr 1860au

Landlord tafarn y Royal Oak wnaeth adeiladu'r cwrt yn Nelson er mwyn denu cwsmeriaid o'r Nelson Inn gerllaw, lle roedd cwrt arall.

Yn ôl Kevin Dicks mae hanes pêl-law yn Nelson yn mynd law yn llaw â hanes glo yn yr ardal ac fe grewyd y cwrt ar gyfer glowyr yr ardal a oedd yn difyrru eu hunain drwy gamblo a chwarae'r gêm yn erbyn ei gilydd.

Mewn cyfweliad gyda'r 91Èȱ¬ yn 2016 dywedodd Mr Dicks y byddai'n braf gweld y genhedlaeth iau yn dod oddi wrth eu teclynau ac yn ymuno â nhw yn y gêm draddodiadol ar fore Sul.

Mae gwefr amrwd i'w gael wrth chwarae gêm lle nad oes angen "dim ond pêl a wal" meddai'r cyn-bencampwr Kerry Wilde yn yr un clip fideo.

Ffynhonnell y llun, Casgliad Howard Jones

Disgrifiad o'r llun, Sgwad Cymru, Pencampwriaethau'r Byd yn Winnipeg 1997 - Kevin Dicks yw'r ail o'r dde yn y rhes gefn ac mae Kerry Wilde yn eistedd o'i flaen

Hanes y gêm

"Mae'n bosib ei fod wedi dod yma efo'r Rhufeiniaid," meddai Carolyn.

"Roedd gêm eithaf tebyg o'r enw expulsim ludere yn cael ei chwarae yn broffesiynol yn Rhufain.

"Yn y canoloesau roedd yn enfawr, yn enwedig yn y 1800au a'r 1900au. Roedd yn cael ei chwarae ledled Cymru. Mae tystiolaeth o gyrtiau neu gofnodion llys dros Gymru am bobl yn chwarae yn erbyn waliau yr eglwys."

Mae'r sôn cyntaf am y gêm yn gysylltiedig efo Cymru wedi ei gofnodi yn y nawfed ganrif yn y chwedl am ddraig goch y Brythoniaid yn brwydro yn erbyn draig wen y Sacsoniaid yn Ninas Emrys lle mae cyfeiriad at Ambrose, neu Emrys, yn chwarae pêl-law.

Disgrifiad o'r sainCarolyn Hodges sy'n olrhain hanes y gêm oedd yn arfer cael ei chwarae ym mhob cwr o Gymru.

Sgrifennodd Guto'r Glyn Gywydd y Bêl, yn canmol chwaraewr pêl-law Hywel ap Llywelyn Fychan yn y 15fed ganrif hefyd.

Ond fe ddaeth i gael ei gweld yn ddiweddarach fel gêm oedd yn creu problemau.

"Roedd lot fawr o reolau lleol yn erbyn y peth achos roedden nhw'n creu cymaint o ddifrod yn torri ffenestri a gwaith cerrig ar yr eglwysi," meddai Carolyn.

Oherwydd yr holl drafferth roedd yn ei greu roedd yn cael ei galw'n 'gêm y diawl' a phobl yn cael eu herlyn am ei chwarae er mwyn ceisio cael gwared o'r broblem.

Ffynhonnell y llun, Casgliad Ceri Hughes

Disgrifiad o'r llun, Lewis a Matthews yn erbyn Babbs a Jones, 1941

Un o'r rhai gafodd eu herlyn am chwarae oedd Rice Jones o'r Gelli Gaer yn 1584 wedi iddo chwarae ar wal allanol yr eglwys yn ystod y gwasanaeth a chafodd chwaraewyr yng Nghaerfyrddin oedd yn defnyddio'r fynwent eu rhoi mewn cyffion traed yn 1684.

Symud i'r tafarnau

Ar ôl y Diwygiad Methodstaidd yn y 18fed ganrif dechreuodd y boblogaeth symud i ffwrdd o'r eglwysi a thyfodd y gêm mewn cyrtiau wedi eu hadeiladu yn bwrpasol, fel arfer tu ôl i dafarnau, meddai Carolyn.

"Roedd gemau mawr yn cael eu trefnu gan berchnogion tafarnau efo gwobrau arian mawr," meddai

"Roedd pobl yn teithio o bell mewn dyddiau pan doedd dim ceir a trenau, roedd yn anodd teithio ond roedd fel Premiership neu Pro14 y cyfnod - roedd yn rili, rili mawr."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Werin Sain Ffagan

Disgrifiad o'r llun, Wil o’r Wern, Pencampwr Tonypandy, gyda'i noddwyr, 1880

Roedd yfed cwrw yn mynd law yn llaw â'r gêm a llawer o arian i'w wneud drwy herio chwaraewyr neu gamblo.

Roedd gan y gamp enwau gwahanol dros Cymru: pêl-law, handball, chwarae pêl, tally, tennis a fives.

Mae'n sail i nifer fawr o'n gemau a'n chwaraeon cyfoes ni heddiw.

Ffynhonnell y llun, Wikimediacommons

Yn nechrau'r 20fed ganrif, ac yn enwedig ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf daeth rygbi a phêl-droed yn llawer pwysicach, meddai Carolyn Hodges.

"Ond mae'n drist iawn achos roedd rhywbeth rili mawr yn hanes cymdeithasol Cymru a mae wedi mynd yn angof," ychwanegodd.

"Fasa' fo'n wych tasa' llyfr Kevin Dicks yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd i drio'r gêm, gan ei bod hi wedi bod mor bwysig yn hanes y wlad."

Disgrifiad o'r llun, Does angen "dim ond pêl a wal" i chwarae'r gêm

Hefyd o ddiddordeb: