Galw ar Gyngor Gwynedd i ailfeddwl toriadau cynllun iaith

Mae aelodau o bwyllgor addysg ac economi Cyngor Gwynedd wedi galw ar yr awdurdod lleol i ailystyried cynlluniau i newid y drefn o drwytho plant yn y Gymraeg.

Oherwydd yr angen am doriadau ariannol, mae'r cyngor yn bwriadu lleihau'r cyllid sydd ar gael i'w ganolfannau iaith o 拢96,000 ym mis Medi - ac yn ystyried sawl opsiwn, gan gynnwys cau un o'r canolfannau.

Nod yr unedau iaith yw ymdrochi disgyblion sy'n newydd i'r sir yn y Gymraeg a'u helpu i ddod yn rhan o gymuned ddwyieithog.

Pum canolfan sydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd - yn Nolgellau, Llangybi, Maesincla, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog.

Yng nghyfarfod y pwyllgor addysg ac economi ddydd Iau, dywedodd Alwyn Gruffydd fod y cynlluniau yn "destun pryder gwirioneddol".

Roedd disgwyl i'r pwyllgor drafod be fyddai'r ffordd orau o weithredu'r toriadau - cau un o'r safleoedd neu newid y strwythur staffio er mwyn cadw pob safle ar agor.

Yn ystod y cyfarfod, dywedodd Mr Gruffydd na fyddai'n gallu cefnogi unrhyw un o'r cynlluniau gan y buasent yn effeithio ar effeithiolrwydd y gwasanaeth.

Mae dros 7,000 o blant wedi mynychu'r canolfannau iaith hyn ers iddyn nhw agor 35 mlynedd yn 么l.

'Adnodd amhrisiadwy'

"Mae hyn yn destun pryder gwirioneddol gan fod y gwasanaeth wedi gwneud gymaint i gadw'r ethos Gymraeg o fewn ein hysgolion," meddai Mr Gruffydd.

"Mae'r canolfannau yn adnodd amhrisiadwy sydd wedi helpu ysgolion Gwynedd ddal eu tir yn nhermau'r iaith Gymraeg.

"Dydw i ddim yn deall y meddylfryd lle bo' cost yn bwysicach nag unrhyw beth arall."

Yn 么l adroddiad gafodd ei gyflwyno i aelodau, mae'r awdurdod yn wynebu costau ychwanegol o ganlyniad i chwyddiant a thoriadau o 10% yn y Grant Gwella Addysg.

'Toriadau yn anochel'

Dywedodd Pennaeth Addysg y Cyngor, Garem Jackson: "Mae toriadau mewn addysg wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, gan arwain at golli degau o swyddi dysgu a channoedd o swyddi cymorthyddion dosbarth.

"I fod yn blwmp ac yn blaen, mae toriadau yn amhosib i'w hosgoi erbyn hyn. Mae cynnal y ddarpariaeth bresennol yn amhosib."

Ychwanegodd y cynghorydd Gareth Thomas: "Toriadau yn ein cyllideb a cholli arian grant sydd yn gyfrifol am hyn, ond peidiwch a meddwl nad ydyn ni yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru.

"Mae'n rhaid i ni gynnig y gwasanaeth mewn ffordd wahanol. Dyna yw'r sefyllfa sy'n ein hwynebu."

Er nad yw'r pwyllgor wedi gwneud argymhelliad penodol, mi fydd eu sylwadau yn cael eu hystyried pan fydd cabinet y cyngor yn gwneud y penderfyniad terfynol.