Mamolaeth Cwm Taf: Angen gweithredu 'ar frys'

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi dweud ei fod yn disgwyl i fwrdd iechyd Cwm Taf weithredu argymhellion yr ymchwiliad "ar frys"

Mae rheolwyr ysbyty wedi cael gorchymyn i wneud newidiadau i sicrhau diogelwch gwasanaethau mamolaeth "ar frys".

Daeth archwilwyr o hyd i nifer o "bryderon am safon a diogelwch" ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf yr wythnos diwethaf.

Mae'n rhan o ymchwiliad sy'n edrych ar achosion 芒 "chanlyniadau niweidiol" i 43 o fabanod gafodd eu geni dros gyfnod o ddwy flynedd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod Cwm Taf eisoes wedi gweithredu i ddatrys rhai o'r pryderon a bod "disgwyl iddynt weithredu'r argymhellion eraill ar frys".

Dywedodd Allison Williams, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf: "Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i gleifion o ddifrif, ac ry'n yn benderfynol o wneud popeth sydd ei angen i ddarparu gwasanaeth mamolaeth diogel ac effeithiol o ansawdd uchel.

"Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd bellach wedi cwblhau eu hadolygiad annibynnol o'n gwasanaethau mamolaeth a byddant yn cyhoeddi eu adroddiad maes o law.

"Mae adborth llafar cychwynnol wedi dod i law ac rydym wedi ymateb i hyn ar unwaith drwy sefydlu ystod o gamau gweithredu i fynd i'r afael 芒 rhai o'r pryderon a godwyd.

"Ymhlith y rhain y mae trefniadau gwell ar gyfer rot芒u meddygol, prosesau uwch-gyfeirio cryfach a rhagor o gymorth i'r rhai sydd dan hyfforddiant.

"Ry'n yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif ac yn benderfynol o sicrhau gwasanaeth mamolaeth diogel ac effeithiol."

Adnabod nifer o bryderon

Dywedodd Mr Gething fod timau o Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi treulio tri diwrnod gyda'r bwrdd iechyd yn siarad gyda theuluoedd a staff.

Dywedodd bod adborth yr ymchwiliad yn adnabod nifer o bryderon am safon a diogelwch y bwrdd a oedd angen eu datrys yn syth.

"Fel mater o frys, rydym wedi cytuno i nifer o weithredoedd gyda'r colegau brenhinol a Chwm Taf i wneud newidiadau'n syth i sicrhau diogelwch gwasanaethau mamolaeth."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gwasanaethau mamolaeth wedi eu rhannu rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty'r Tywysog Charles

Ar hyn o bryd, mae'r gwaith yn canolbwyntio ar lefelau staffio bydwragedd a staff obstetreg - gyda'r bwrdd iechyd yn mynnu bod y rhain yn ddiogel - ac arweinyddiaeth glinigol gryf a gwella rheolaeth.

"Diogelwch a lles mamau a babanod sy'n derbyn gofal mamolaeth gyda Chwm Taf yw'n prif ffocws o hyd," meddai Mr Gething.

"Fel rhiant fy hun, rwy'n deall y pryder fyddai hyn wedi ei achosi i rieni sy'n defnyddio, ac sydd wedi defnyddio'r gwasanaethau.

"Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod darganfyddiadau'r arolwg ac argymhellion y t卯m yn darparu gwelliannau i'r ddarpariaeth o wasanaethau."

Mae'r ymchwiliad - a gafodd ei gyhoeddi fis Hydref llynedd - yn edrych ar 20 genedigaeth farw a chwe achos o fabanod a fu farw ar 么l cael eu geni.

Bydd y canfyddiadau llawn yn cael eu hadrodd erbyn y gwanwyn, ond cafodd canfyddiadau cychwynnol eu rhoi i Lywodraeth Cymru'r wythnos diwethaf.

Yn sgil difrifoldeb rhai o'r canfyddiadau, roedd galw am sylw brys.

Cafodd monitro manylach i'r bwrdd iechyd hefyd ei gyhoeddi yn gynharach ym mis Ionawr.

Mae'r gwasanaethau mamolaeth wedi eu rhannu rhwng Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.