Beks wedi ysbrydoli DJ ifanc

Disgrifiad o'r llun, Mae stori Cerian Griffith yn dangos y "gall pawb wireddu eu breuddwydion" meddai cyn gyflwynydd Radio Cymru, Beks James

Pan oedd Cerian Griffith o Amlwch yn wyth oed roedd hi eisiau bod yn DJ ar Radio Cymru. Ei harwr ar y pryd oedd cyflwynydd Radio Cymru, Beks James, a oedd yn darlledu ar yr orsaf yn wreiddiol o 1996 i 2002.

Gymaint oedd ei hedmygedd tuag at Beks fe ysgrifennodd Cerian lythyr at y cyflwynydd yn dweud wrthi am ei gobeithion personol i fod ar y radio rhyw ddydd.

Mewn rhaglen ar Radio Cymru, Am Un Noson yn Unig, i'w darlledu ddydd Gwener 18 Ionawr, mae Beks yn cyfweld 芒 Cerian, sydd bellach wedi gwireddu ei gobeithion ac sy'n gyflwynydd ar Capital 103 FM.

"Mae'r llythyr yn dod 芒 gymaint o atgofion yn 么l," meddai Cerian ar y rhaglen.

"I fod yn hollol onest dwi ddim yn cofio sgwennu'r llythyr, achos 'da ni'n mynd n么l rhai blynyddoedd erbyn hyn - roeddwn i o gwmpas wyth neu naw oed. Roedd 'na rywun yn rhywle sy'n meddwl bod y llythyr yn eitha' ciwt ac yn werth ei gadw.

"O'n i wrth fy modd yn gwrando ar Radio Cymru, a chysylltu efo'r cyflwynwyr a thrio cystadlaethau a siarad yn fyw ar yr awyr.

"O'n i'n gwirioni, wrth fy modd - roeddwn i yn fy elfen a dyna o'n i'n mwynhau gwneud."

Ysgrifennodd Cerian y llythyr ar 么l ennill cystadleuaeth a chael bag o nwyddau oedd yn cynnwys teclyn ff么n oedd yn goleuo.

"Meddwl yn 么l am y llythyr a'r ff么n oedd yn goleuo - dwi'n cofio hwnnw achos hwnnw oedd wrth fy ngwely i, a bob tro o'n i'n cael tecst oedd o'n fflachio," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Y llythyr a anfonodd Cerian at Beks 20 mlynedd yn 么l

Aeth Cerian ymlaen i wneud profiad gwaith gyda'r 91热爆 ym Mangor gan ei bod yn gobeithio cyflwyno rhyw ddydd.

"O'n i'n gwybod ers o'n i'n saith mlwydd oed mai cyflwynydd radio oeddwn i eisiau bod.

"O'n i'n mwynhau ymchwilio i mewn i bethau a siarad. Pan o'n i yn y car pan o'n i'n iau, a'r radio ymlaen, o'n i'n ymarfer cyflwyno'r caneuon yn ystod yr intro. "

"Mi roedd addysg yn hynod o bwysig i mi ac o'n i isho mynd i astudio, ond mi roedd y freuddwyd pryd o'n i'n saith mlwydd oed yn gwybod mai eisiau cyflwyno ar y radio o'n i.

"Erbyn hyn dwi 'di gwireddu'r freuddwyd hynny ac yn darlledu ar y penwythnosau ar Capital 103 FM ar brynhawniau Sadwrn a Sul rhwng 12-4pm. Mae'n braf cael deffro yn y bore ac edrych ymlaen at fynd i'r gwaith, a dwi 'di bod yno ers wyth mlynedd bellach."

Mae'r gyfres Am Un Noson yn Unig ar Radio Cymru yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y rhaglen radio bop Gymraeg gyntaf erioed, Helo Sut Dach Chi? yn 50 oed. Mae rhai o gyflwynwyr cerddoriaeth Radio Cymru yn dychwelyd i'r orsaf i ail-greu eu rhaglenni o'r gorffennol, a hynny am un noson yn unig. Mae Beks yn cyflwyno ym mhedwaredd rhaglen y gyfres.

Disgrifiad o'r llun, Beks a'i rhaglen radio boblogaidd o'r 1990au

Yn siarad gyda 91热爆 Cymru Fyw am y cyfweliad gyda Cerian, dywedodd Beks: "Roedd hi'n bleser ac yn fraint cael gair 'da Cerian. Pwy feddyliai fod y ferch fach 'ma oedd yn gwrando ar Radio Cymru wedi gwireddu breuddwyd a nawr yn gweithio fel DJ?

"Dwi'n cofio darllen llythyrau gan wrandawyr ac roedden nhw wastad yn dod 芒 llwyth o bleser i mi achos roeddwn i'n teimlo mod i'n cyffwrdd 芒 rhywun a chreu perthynas 'da nhw (dyna'r peth spesial am gyfrwng radio - mae mor bersonol).

"Yn achos Cerian, roedd Radio Cymru a'r sioe Y B卯t yn amlwg wedi creu argraff arni a rhoi'r syniad iddi fod yn DJ o ddyddiau ysgol gynradd, ac roedd hi'n bendant ei bod eisiau bod yn gyflwynydd radio.

"Cefais sioc orau fy mywyd pan glywais i mai dyna yn union beth wnaeth hi - 'tyfu' mewn sawl ffordd - o fod yn blentyn i oedolyn a throi ei g么l a'r freuddwyd yn realiti.

"Mae'n stori anhygoel ac yn un dwi'n browd iawn i s么n wrth fy mhlant i amdani... gall pawb wireddu eu breuddwydion drwy ddyfalbarhad, credu yn eich hunan a bod yn angerddol am yr hyn chi eisiau.

"Dwi'n edrych 'mlaen yn fawr iawn i wrando arni ar y radio yn hytrach na hi yn gwrando arna i!"

Disgrifiad o'r llun, Beks, sydd bellach yn byw yn Hong Kong, yn recordio ar gyfer y rhaglen Am Un Noson yn Unig

Hefyd o ddiddordeb: