Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Drakeford wedi 'gwrthod cyfarfod wyneb-yn-wyneb 芒 May'
Mae Mark Drakeford wedi cael ei feirniadu am wrthod cyfarfod un-i-un gyda Theresa May - y cyntaf ers iddo ddod yn brif weinidog - er mwyn teithio i Gaerdydd ar gyfer dathliad gydag aelodau Llafur.
Roedd Mr Drakeford i fod i gyfarfod Mrs May am 14:00 ddydd Mercher, ond fe ddywedodd ei swyddfa hithau bod yn rhaid ei gynnal yn hwyrach yn y dydd gan gynnig ei aildrefnu yn gynnar yr un noson.
Mae 91热爆 Cymru yn ddeall bod y cynnig hwnnw wedi ei wrthod oherwydd "ymrwymiad blaenorol yng Nghaerdydd", sef parti diolch i bobl oedd yn rhan o ymgyrch Mr Drakeford i olynu Carwyn Jones.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr honiad "yn nonsens llwyr" a bydd y cyfarfod yn cael ei aildrefnu.
'Rhaid i mi ddod adref'
Fe wnaeth Mr Drakeford gwrdd 芒 Mrs May - ynghyd 芒 Nicola Sturgeon, prif weinidog Yr Alban a chynrychiolwyr o Ogledd Iwerddon - yn ystod cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, gan drafod materion yn cynnwys goblygiadau Brexit heb gytundeb gyda'r UE.
Ond dyw'r ddau heb gael cyfarfod un-i-un ers penodiad Mr Drakeford yn brif weinidog Cymru.
Mae ffynhonnell oedd yn y parti wedi dweud wrth 91热爆 Cymru bod Mr Drakeford wedi dweud wrthyn nhw: "Mae Jeremy Corbyn yn gwybod amdanoch chi achos fe wnaethoch chi gynnal ymgyrch ffantastig i fy ethol i.
"Doedd Theresa May ddim yn gwybod amdanoch chi ond mi mae hi nawr oherwydd fe ddywedais i wrthi fod rhaid i mi ddod adref i gwrdd 芒 chi gyd.
"Fe gynigiodd hi un-i-un i mi ond dywedais i fod gen i ymrwymiad blaenorol gyda chi gyd."
Dywedodd AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards bod Mr Drakeford wedi "cefnu'n gywilyddus ar ei gyfrifoldeb".
"Ar ddiwrnod oedd yn nodi 100 niwrnod cyn Brexit, roedd y prif weinidog o'r farn bod hi'n fwy addas i yfed siamp锚n gyda'i f锚ts na sicrhau llais i Gymru yn San Steffan," meddai.
"Mae rhoi eich plaid wleidyddol o flaen eich gwlad yn warthus, mae rhoi dathliad o flaen eich gwlad yn wallgofrwydd."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies nad oedd hwn yn "ddechrau da" i Mr Drakeford.
"Mae'n hollbwysig bod gyda ni unigolyn ymroddgar sy'n fodlon mynd i'r eithaf i sicrhau bod pobl Cymru'n cael eu cynrychioli ar y lefel uchaf.
"Rwy'n gwerthfawrogi bod gydag e ymrwymiadau eraill ond siawns y gallai fod wedi aildrefnu'r parti gan y dylid blaenoriaethu trafodaethau gyda'r prif weinidog."
'Nonsens'
Mewn ymateb i'r feirniadaeth dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn nonsens llwyr.
"Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru gwrdd 芒'r Prif Weinidog ddoe ac mae hefyd wedi cael trafodaeth fanwl gyda hi dros y ff么n yn gynharach yn yr wythnos.
"Roedd cyfarfod rhwng y ddwy ochr yn gynnar yn y dydd ddoe wedi ei drefnu, ond bu'n rhaid i'r Prif Weinidog aildrefnu ar fyr rybudd oherwydd ymrwymiadau eraill. Bydd y cyfarfod yn cael ei aildrefnu."