Mark Drakeford yn diswyddo dau aelod o'r cabinet

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Y cabinet newydd, oni bai am Vaughan Gething, oedd yn cael llawdriniaeth ddydd Iau

Mae Alun Davies a Huw Irranca-Davies wedi colli eu lle yng nghabinet Llywodraeth Cymru, wrth i'r Prif Weinidog newydd Mark Drakeford ddewis ei d卯m gweinidogol.

Bydd Jane Hutt yn ailymuno 芒'r cabinet fel Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip, tra bod Julie Morgan a Lee Waters yn dod yn weinidogion am y tro cyntaf.

Fe fydd Vaughan Gething yn parhau fel Gweinidog Iechyd, ac mae Ken Skates yn aros fel Gweinidog yr Economi, ond mae hefyd wedi'i benodi'n weinidog dros ogledd Cymru.

Cafodd Mr Drakeford ei ethol fel y Prif Weinidog nesaf yn dilyn pleidlais yn y Senedd ddydd Mercher.

Yr wythnos diwethaf dywedodd ei fod eisiau penodi cabinet oedd 芒 chydbwysedd rhwng nifer y dynion a'r menywod - mae ei gabinet newydd yn cynnwys chwe dyn ac wyth dynes.

Tri wyneb newydd

Roedd Alun Davies wedi bod yn Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ers 2017, ac roedd Huw Irranca-Davies yn Weinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant.

Fe fydd Julie James - Arweinydd y T欧 gynt - nawr yn Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, gyda Hannah Blythyn yn ddirprwy iddi.

Bydd Julie Morgan yn Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, tra bod Lee Waters yn Ddirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth.

Roedd Mr Drakeford eisoes wedi dweud y byddai'r Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams yn parhau fel y Gweinidog Addysg, fel yr oedd hi dan ei ragflaenydd Carwyn Jones.

Disgrifiad o'r llun, Mae Alun Davies, oedd yn gyfrifol am lywodraeth leol, wedi colli ei le yn y cabinet

Bydd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Elis-Thomas - sydd bellach yn AC annibynnol - hefyd yn parhau fel Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.

Hefyd yn cadw ei swydd mae Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths.

Rebecca Evans sydd yn cymryd cyfrifoldeb dros gyllid oddi wrth Mr Drakeford, tra bod Jeremy Miles yn cymryd y cyfrifoldebau Brexit oedd hefyd yng nghyn-bortffolio'r prif weinidog newydd.

Yn gynharach ddydd Iau cafodd Mr Drakeford ei gadarnhau fel Prif Weinidog mewn seremoni swyddogol ym Mae Caerdydd.

Disgrifiad o'r llun, Mae Lee Waters yn ymuno fel Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Dadansoddiad Golygydd Materion Cymreig y 91热爆, Vaughan Roderick:

Mae llywodraeth newydd Mark Drakeford yn gweld gweinidogion allweddol fel Ken Skates, Vaughan Gething a Lesley Griffiths yn cadw eu portffolios, tra'n dod ag ACau fel Lee Waters a Julie Morgan, oedd yn cael eu hystyried fel aelodau o "awkward squad" Llafur, i'r llywodraeth am y tro cyntaf.

Mae penodiad AC Llanelli Lee Waters fel Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cael ei ystyried fel arwydd clir bod y cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 i'r de o Gasnewydd mewn perygl.

Mae Mr Waters wedi bod yn wrthwynebydd uchel ei gloch o'r cynlluniau, a byddai'n ei gweld yn anodd parhau yn ei r么l newydd pe bai'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo.

Portffolios a chyfrifoldebau gweinidogol yn llawn:

  • Prif Weinidog Cymru - Mark Drakeford
  • Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Vaughan Gething
  • Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Julie Morgan
  • Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol - Eluned Morgan
  • Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon - Dafydd Elis-Thomas
  • Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth - Ken Skates
  • Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth - Lee Waters
  • Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - Julie James
  • Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol - Hannah Blythyn
  • Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd - Rebecca Evans
  • Gweinidog Addysg - Kirsty Williams
  • Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Lesley Griffiths
  • Darpar Gwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit - Jeremy Miles
  • Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip - Jane Hutt