Galw ar Mark Drakeford i fod yn gyfrifol am y Gymraeg

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Mark Drakeford, sy'n siaradwr Cymraeg, yn cynrychioli etholaeth Gorllewin Caerdydd yn y Cynulliad

Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud y dylai Mark Drakeford gymryd cyfrifoldeb dros y Gymraeg pan mae'n dod yn brif weinidog.

Ddydd Iau daeth y cyhoeddiad mai Mr Drakeford fydd arweinydd nesaf Llafur Cymru, gan olynu Carwyn Jones.

Mae Mr Drakeford eisoes wedi dweud wrth 91热爆 Cymru ei fod yn bwriadu "newid y ffordd mae'r cabinet... yn rhedeg".

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith y byddai unrhyw ad-drefnu cabinet yn gyfle i'r Prif Weinidog newydd gymryd cyfrifoldeb dros y portffolio iaith.

'Arweiniad o'r brig'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud galwadau tebyg yn y gorffennol, gan gynnwys yn 2013 pan wnaethon nhw alw am gynnwys y Gymraeg fel rhan o bortffolio'r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Fe ddigwyddodd hynny, ond ers 2016 mae Llywodraeth Cymru wedi penodi gweinidogion yn hytrach nag ysgrifennydd cabinet i fod yn gyfrifol am y Gymraeg.

Mae ymgyrchwyr iaith nawr yn dweud eu bod am weld y cyfrifoldeb yn dychwelyd i'r prif weinidog.

Maen nhw hefyd am weld y Gymraeg yn bwnc y dylai pob aelod cabinet "gyfrannu ato", ac wedi galw am "uwchraddio'r uned yn y gwasanaeth sifil sy'n gyfrifol am yr iaith".

Disgrifiad o'r llun, Eluned Morgan yw Gweinidog y Gymraeg ar hyn o bryd

"Dydy'r Gymraeg ddim yn cael y statws na'r ystyriaeth mae'n ei haeddu gan y llywodraeth ar hyn o bryd," meddai Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

"Rydyn ni o'r farn mai dim ond gydag arweiniad o'r brig y gwelwn ni'r newid sydd ei angen."

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n hyderus y gwelwn ni newid agwedd yn y llywodraeth o dan arweiniad Mark Drakeford.

"Roedden ni'n falch bod ei faniffesto yn canolbwyntio ar gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg ac nad oedd s么n am y cynlluniau annoeth presennol i wanhau'r Ddeddf Iaith. Felly, mae'n debyg bod ei flaenoriaethau yn iawn."

Mark Drakeford, sydd yn Ysgrifennydd Cyllid ar hyn o bryd, sy'n debygol o gymryd yr awenau fel prif weinidog ar 么l i Carwyn Jones ymddiswyddo yn ddiweddarach yn yr wythnos.