Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Deiseb cleifion canser y prostad am sgan yn lle biopsi
- Awdur, Si么n Pennar
- Swydd, Gohebydd 91热爆 Cymru
Bydd deiseb yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ddydd Mercher i alw am newidiadau i'r drefn o roi diagnosis canser y prostad.
Ar hyn o bryd, dim ond tri o'r saith bwrdd iechyd sy'n cynnig sgan MRI amlberametrig (mpMRI) cyn biopsi.
Mae ymgyrchwyr yn dweud bod y sgan yn llai poenus ac yn fwy cywir.
Ond dywedodd y llywodraeth nad ydy'r sefydliad iechyd NICE yn argymell rhoi'r sgan yn gyntaf ar hyn o bryd.
Mae Alwyn ap Huw o Lansanffraid Glan Conwy wrthi'n cael triniaeth radiotherapi am ganser y prostad.
Y drefn yn yr ardal hon, sydd dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw rhoi biopsi'n gyntaf i brofi'r diagnosis.
'Ofnadwy o boenus'
Cafodd Mr ap Huw fiopsi, ond gan ei fod hefyd yn byw ag epilepsi, penderfynodd y meddygon atal y prawf ar ei hanner rhag iddo gael ffit.
Y ffordd amgen o ddod at ddiagnosis oedd mynd am sgan mpMRI yn Ysbyty Gwynedd.
"Dwi ddim yn meddwl 'mod i wedi brifo cymaint yn fy mywyd," meddai am y biopsi, "a dim ond ychydig bach o'r prawf gefais i.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael rhwng 10 a 12 pigiad, a dim ond trio rhoi tri wnaethon nhw i mi. Roedd o'n ofnadwy o boenus."
Mewn rhannau eraill o Gymru, mae'r sgan yn cael ei gynnig yn gyntaf. Yn 么l deiseb yr ymgyrchwyr, mae manteision i'r sgan o ran gwella diagnosis ac osgoi heintiau posib yn ogystal.
O'r herwydd, mae rhai cleifion yn penderfynu talu am sgan mewn clinig preifat, sy'n costio tua 拢1,000 fel arfer.
Mae'r anghysondeb rhwng byrddau iechyd Cymru yn gwylltio Mr ap Huw.
"Mae o'n warthus, a dweud y gwir. Pe bawn ni wedi cael diagnosis, dywedwch, yn ardal Abertawe, 'swn i heb gael y biopsi o gwbl, 'swn i wedi mynd yn syth i sgan.
"Mi ydw i'n flin efo Llywodraeth Cymru eu bod nhw heb roi'r peiriannau gorau a mwyaf addas i gleifion yng ngogledd Cymru."
Adolygu canllaw
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw defnyddio MRI amlbarametrig cyn biopsi ar y prostad yn rhywbeth sy'n cael ei argymell ar hyn o bryd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).
"Mae'r canllaw perthnasol wrthi'n cael ei adolygu ac mae'r byrddau iechyd yn cydweithio i baratoi ar gyfer newidiadau posib i'r dull archwilio lle bo amheuaeth o ganser y prostad."
Mae'r ymgyrchwyr wedi casglu bron i 6,000 o lofnodion o blaid rhoi sgan yn gyntaf.
Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i ACau tu allan i'r Senedd ddydd Mercher, ac mae disgwyl i'r Pwyllgor Deisebau drafod y cynnig ar 11 Rhagfyr.