Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dynes gollodd chwe st么n yn diolch i elusen awyr agored
Mae dynes o Wynedd a gollodd chwe st么n pan ddechreuodd ddringo wedi diolch i elusen sydd wedi ennill gwobr am drawsnewid ei bywyd.
Mae'r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael ei henwi fel Sefydliad y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru eleni.
Mae'n helpu miloedd o bobl i ddefnyddio'r awyr agored i wella eu bywydau - gan gynnwys Gwenllian Dafydd o Fethesda.
Dechreuodd Gwenllian, 30, fynd i sesiynau dringo yn Indy Climbing Wales yn Llanfairpwll ar Ynys M么n y llynedd.
"Roeddwn i wedi cyrraedd croesffordd yn fy mywyd," meddai.
"Roeddwn i'n pwyso mwy nag erioed, yn segur ac yn teimlo'n isel iawn."
Bellach mae'n dringo ac yn rhedeg ac mae wedi cofrestru ar gwrs sg茂o.
Ychwanegodd: "Wnaeth yr hyfforddwr dringo ddim gwneud i mi feddwl nad oeddwn i ddigon da neu angen newid, ond fe roddodd y sesiynau a'r adnoddau oeddwn i eu hangen i gael help."
Fe sylweddolodd Gwenllian pa mor bell oedd hi wedi dod wrth ddringo yn yr awyr agored am y tro cyntaf.
"Fe wnes i eistedd ar y top ar 么l dringo 300 troedfedd a gwylio'r machlud a meddwl 'mod i'n byw y bywyd yma diolch i'r Bartneriaeth Awyr Agored," meddai.
"Fyddwn i byth wedi gwneud hyn cyn dechrau dringo gyda nhw."
'Ysbrydoli pobl leol'
Mae'r bartneriaeth wedi cael ei chydnabod am ei gwaith yn sbarduno cynhwysiant yn y sector awyr agored.
Mae ei rhaglen Antur Merched yn un o'r mentrau sy'n mynd o nerth i nerth.
Esboniodd y prif weithredwr, Tracey Evans: "Mae gwaith y bartneriaeth yn ysbrydoli pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgarwch awyr agored er lles eu hiechyd a'u hyder ac mae'n helpu i ddarparu cyfleoedd newydd i newid bywydau er gwell."
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig mae'r t卯m wedi ysbrydoli mwy na 16,000 o bobl, drwy gydweithio 芒'r 45 o glybiau sy'n aelodau, partneriaid a chyflogwyr lleol.
Mae Gwobr Sefydliad y Flwyddyn yn helpu i gydnabod llwyddiant wrth annog pobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Bydd Gwobrau Chwaraeon Cymru yn cael eu cynnal yn y Celtic Manor nos Fawrth 4 Rhagfyr.
Bydd mwy o enillwyr yn cael eu cyhoeddi wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen. Yr enillwyr hyd yn hyn ydy:
- Codi Allan, Bod yn Egn茂ol - Gwobr Cymru Actif 2018
- Gareth Lanagan - Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2018
- Aled Jones-Davies - Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn 2018
- Partneriaeth Awyr Agored - Sefydliad y Flwyddyn 2018