Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Leigh Halfpenny allan o d卯m Cymru wedi cyfergyd
Ni fydd Leigh Halfpenny yn chwarae i Gymru yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn oherwydd anaf.
Fe gafodd y cefnwr gyfergyd yn ystod y g锚m yn erbyn Awstralia 10 diwrnod yn 么l.
Ddydd Mawrth, dywedodd hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Rob Howley, bod lles y chwaraewr yn "dod gyntaf" wrth wneud penderfyniadau o'r fath.
Mae disgwyl i'r prif hyfforddwr, Warren Gatland, gyhoeddi ei d卯m fore Iau.
'Synnwyr cyffredin'
Dywedodd Howley: "Mae Leigh allan. Fe aeth i hyfforddi fore Sadwrn, ond roedd yn dal i deimlo braidd yn benysgafn.
"Mae'n synnwyr cyffredin, mewn gwirionedd. Lles y chwaraewr sy'n dod gyntaf. Yn anffodus, fe fydd yn colli allan y penwythnos hwn."
Ymhlith yr opsiynau eraill i gymryd ei le mae Liam Williams, a sgoriodd dwy gais yn erbyn Tonga'r penwythnos diwethaf, a'r maswr Gareth Anscombe.
Bydd absenoldeb Halfpenny - sydd wedi sgorio 700 o bwyntiau i'w wlad - hefyd yn cynnig cyfle i Anscombe, Dan Biggar neu Rhys Patchell i gamu i'w esgidiau i gicio.
Cadarnhaodd Howley hefyd fod George North yn hyfforddi eto wedi iddo gael anaf i'w goes yn yr ornest yn erbyn y Wallabies.
Mae'r t卯m yn gobeithio am eu nawfed buddugoliaeth yn olynol dros y penwythnos - y tro diwethaf llwyddodd y t卯m i wneud hynny oedd yn 1999.