Delio gyda galar y plant ar 么l colli Ynyr

Ffynhonnell y llun, Sara Wyn

Mae 15 - 21 Tachwedd yn wythnos o godi ymwybyddiaeth am alar plant. I un fam o Gerrigydrudion, wnaeth golli ei g诺r, tad ei phlant, ddechrau'r flwyddyn, un dydd ar y tro ydy hi o hyd.

"Mae popeth wedi newid," meddai Sara Wyn, sy'n fam i ddwy o ferched, Eldra sy'n dair a Lloer sy'n ddwy.

"Dw i r诺an yn deffro yn y bore i wely gwag. Does dim tecst i wneud si诺r fy mod i wedi cyrraedd gwaith yn saff. Dim tecst yn gofyn beth sydd i swper neu i ofyn mi n么l hwn neu llall o'r siop. Does neb yn gofyn am fy niwrnod i na chwaith yn ffraeo am y remote! A phan mae'r diwrnod hir unig yn dod i ben, dyma fynd yn 么l i wely gwag."

Mae colli ei g诺r wedi ei newid hi fel person ac fel rhiant, meddai.

"Dw i r诺an yn fam ac yn dad. Yr un sydd yn rhoi'r st诺r a'r un sy'n cysuro wedyn. Ar ben y cyfan mae yna straen ariannol. Mynd o ddau gyflog i un.

"A dw i mewn un ffordd wedi gorfod ail ddylunio pwy ydw i. Pwy ydw i heb Ynyr? Pwy ydan ni fel teulu o dri yn lle teulu o bedwar?"

Pan oedd Lloer ond yn bum niwrnod oed, cafodd Ynyr, g诺r Sara Wyn, ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd. Dim ond 30 oed oedd e. Bymtheg mis yn ddiweddarach, ar ddiwrnod pen-blwydd Eldra yn dair oed, bu Ynyr farw.

"Ro'n i wedi ceisio egluro i Eldra o flaen llaw y bydd Ynyr yn mynd un diwrnod ac na fydd yn dod yn 么l. Ro'n i wedi trio egluro marwolaeth drwy lyfrau plant fel 'Y Goeden Gofio', ond eto, pan ddigwyddodd o a minnau'n gorfod egluro i Eldra, roedd o mor anodd," meddai.

"Y golwg o ddryswch ar ei hwyneb hi, a'r geiriau 'OK, ond pryd mae Dad yn dod adre?'"

Ar 么l egluro tro'r cyntaf a bod mor onest 芒 phosib, meddai Sara Wyn, roedd yn rhaid iddi ailadrodd yn ddyddiol bron.

"Ar rai adegau roedd hi mor anodd trio egluro heb ddisgyn yn un swp ar lawr fel bod hi'n haws anwybyddu neu newid y pwnc. R诺an dw i'n siarad lot fwy agored gyda Eldra am ei galar ac am Ynyr."

Bod yn agored

Mae yna ormod o gau llygaid ar alar, yn 么l Sara Wyn, gyda phobl yn tueddu i anwybyddu, a gobeithio y bydd pethau'n disgyn i'w lle.

"Dw i'n euog am ei wneud. Mae hi mor hawdd anwybyddu galar plant, yn enwedig gyda phlant ifanc oed Eldra," meddai.

"Rydan ni'n meddwl eu bod nhw'n rhy ifanc i ddallt a gydag amser mi wnawn nhw anghofio a symud ymlaen. Mae eu galar nhw yn cael ei anwybyddu oherwydd eu hoedran, sy'n hollol annheg. Mae deall ac ymdopi gyda galar fel oedolyn yn gymhleth, felly mae hi'n anodd credu sut all plentyn ei ddallt."

Ffynhonnell y llun, Sara Wyn

Rhaid bod mor agored 芒 phosib wrth gefnogi plant sydd yn galaru, meddai, yn cynnwys egluro sut a pham bod rhywun wedi marw.

"Weithiau rydym ni'n dweud pethau diniwed er mwyn gwarchod plentyn ond fe all hynny greu rhagor o broblemau.

"Er enghraifft y gair 's芒l'. 'Mi wnaeth Dad farw am ei fod o'n s芒l'. Ond eto mae'r gair s芒l yn cael ei ddefnyddio i egluro annwyd, poen bol, cur pen a llawer mwy. Felly ydi pawb sy'n s芒l am farw?

"Dyma pam ei bod hi'n bwysig i fod yn onest ac yn agored o'r diwrnod cyntaf. Mae hi'n bwysig bod plant yn cael y cyfle i drafod a chael ateb i'r cwestiynau, fel ei bod nhw'n medru symud drwy eu galar."

Mae trafod galar angen dod yn fwy derbyniol fel bod pawb yn fwy hyderus a'i drafod yn agored, meddai.

"Mae angen codi lot mwy o ymwybyddiaeth. Dychmygwch faint o blant bach sydd wedi profi profedigaeth. Mae rhan fwyaf ohonom ni'n nabod plentyn sydd wedi colli aelod agos o'r teulu, boed hynny yn Nain yn Daid neu yn ewythr neu'n fodryb.

"Mae gymaint o blant yn galaru ac mae angen i bawb fod yn fwy ymwybodol o'u galar nhw a sut i'w cefnogi nhw orau. Mae plant angen y gefnogaeth i ddeall ei fod o'n iawn i fod yn drist a bod hyn yn naturiol."

Gyda bron i flwyddyn wedi mynd ers marwolaeth ei thad, mae Eldra yn siarad amdano'n ddyddiol, meddai Sara Wyn.

"Mae hi'n dal yn cael hunllefau nos yn wythnosol, mae hi'n dweud yn aml ei bod hi eisio Dad i ddod adre a phan dw i'n egluro na fedr o ddod mae hi fel arfer yn torri ei chalon.

"Mae hynny'n anodd iawn i'w wylio ond mi fydd hi'n setlo yn aml pan dw i'n dweud pa mor bwysig ydy'r ddwy i Ynyr a faint mae o'n eu caru nhw."

Stori: Llinos Dafydd