Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Byddai colli Flybe yn drychinebus' i Faes Awyr Caerdydd
Byddai colli cwmni awyrennau Flybe o Faes Awyr Caerdydd yn "drychinebus", yn 么l cyn-bennaeth marchnata'r maes awyr.
Dywedodd Peter Phillips bod yr 14 o hediadau Flybe o Gaerdydd yn "allweddol" i dyfu nifer y teithwyr oddi yno.
Mae'r cwmni awyrennau ar werth am ei fod yn gwneud colled, ac mae Mr Phillips wedi annog Llywodraeth Cymru - perchnogion y maes awyr - i gynnig cefnogaeth i unrhyw brynwr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai mater i'r maes awyr yw'r berthynas 芒 Flybe.
Mae Flybe yn hedfan i ddinasoedd fel Paris, Berlin, Rhufain a Dulyn o brifddinas Cymru.
'Bregus iawn'
Fe wnaeth Mr Phillips ddisgrifio'r cwmni fel "gweithredwr mwyaf" y maes awyr, ac y byddai ei golli yn "gosod trafnidiaeth o Gymru 'n么l blynyddoedd".
Ychwanegodd ei fod yn amcangyfrif y gallai tua 100 o swyddi mewn perygl yng Nghymru pe bai'r maes awyr yn colli Flybe.
Ond mae'r cwmni o Gaerwysg yn dweud eu bod "mewn trafodaethau gyda nifer o weithredwyr yngl欧n 芒 gwerthu'r cwmni".
Dywedodd Flybe yn gynharach yn yr wythnos y byddan nhw'n gwneud colled o 拢22m eleni, gan feio cwymp mewn galw, punt wannach a chostau tanwydd uwch.
"Fy marn bendant i yw y dylai Llywodraeth Cymru gynnig rhyw fath o gefnogaeth," meddai Mr Phillips.
"Dim prynu'r cwmni, ond cynnig rhywbeth fyddai'n sicrhau bod y perchnogion newydd yn cadw eu hediadau o Faes Awyr Caerdydd."
Ychwanegodd y byddai'r maes awyr yn "fregus iawn" pe bai'r perchnogion newydd yn lleihau nifer yr hediadau o Gymru.