Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Heriau' i 91热爆 Radio Wales wrth i'r orsaf droi'n 40 oed
Mae'n rhaid i 91热爆 Radio Wales wynebu'r heriau sy'n dod yn sgil newidiadau i arferion gwrando, yn 么l golygydd yr orsaf.
Roedd Colin Paterson yn siarad wrth i'r orsaf ddathlu 40 mlynedd ar yr awyr.
Er bod ffigyrau gwrando Radio Wales wedi cyrraedd eu lefel isaf ers i gofnodion ddechrau, mae Mr Paterson am i'r orsaf fod yn "boblogaidd" tra'n cynnig cynnwys amrywiol.
Dywedodd Mr Paterson bod 91热爆 Cymru wedi gwneud gwaith ymchwil i "geisio deall beth yn union yw'r gymysgedd orau i'r orsaf".
Ychwanegodd ei fod yn bwriadu "dod ag enwau newydd a thrio pethau newydd" yn y dyfodol.
Mae'r twf yn y gwasanaethau ffrydio a phodlediadau wedi cyflwyno heriau newydd i'r gorsafoedd radio traddodiadol.
Yn ddiweddar fe lansiodd y 91热爆 ap newydd, 91热爆 Sounds, sy'n rhoi platfform i holl orsafoedd radio'r gorfforaeth, gan gynnwys eu podlediadau.
"Mae'n rhaid i ni wneud yn si诺r ein bod ni'n rhan o'r gymysgedd," meddai Mr Paterson.
"Mae'n amser o newid i'r cyfryngau, ond rwy'n meddwl hefyd ei bod hi'n amser cyffrous iawn.
"Mae jest rhaid i ni fod yn glir am ble mae Radio Wales yn y farchnad a beth sy'n rhaid i ni ei wneud i'n cynulleidfaoedd."