Faletau yn codi arian at driniaeth feddygol ei gefnder

Ffynhonnell y llun, Gofundme/ Toby Faletau

Disgrifiad o'r llun, Mae Amanaki wedi bod yn derbyn triniaeth yn Seland Newydd ers tair blynedd

Mae s锚r o'r byd rygbi wedi dod ynghyd i gefnogi Taulupe Faletau gyda'i ymgyrch i godi 拢50,000 ar gyfer triniaeth feddygol ei gefnder.

Ar 么l iddo brofi diffyg ar ei aren, mae wythwr Cymru eisoes wedi cyfrannu 拢5,000 tuag at driniaeth Amanaki, 21 oed, fel y gallai dderbyn dialysis yn Seland Newydd.

Oherwydd ei fod o Tonga yn wreiddiol, a ddim yn drigolyn yn y wlad, mae'r driniaeth yn costio NZ$6,000 (拢3,092) bob mis.

Oni bai fod 拢50,000 yn cael ei godi, mae Faletau yn ofni y gallai Amanaki gael ei alltudio - gall arwain ato'n marw mewn wythnosau heb dderbyn y dialysis.

'Torcalonnus'

Mae enwau cyfarwydd eraill sydd wedi cyfrannu at yr ymgyrch yn cynnwys prop Lloegr, Mako Vunipola, chwaraewyr Cymru, Cory Hill a Hallam Amos a'i gyd-chwaraewyr yn Bath, Anthony Watson a Charlie Ewels.

Eglurodd Faletau, a anwyd yn Nhonga, nad oes gan y wlad ganolfan dialysis oherwydd byddai'r gost o'i gynnal yn cyfateb i 20% o gyllideb iechyd y wlad, tra mai dim ond 1% o drigolion byddai'n elwa ohono.

"Er ei fod yn ddealladwy, mae hi'n dorcalonnus i'r 1% sydd wir angen y driniaeth," meddai ar ei dudalen Gofundme.

"Heb ddialysis mae claf sydd 芒 diffyg ar yr aren yn debygol o farw o fewn wythnosau."

Ffynhonnell y llun, Gofundme/ Toby Faletau

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Faletau ei eni yn Nhonga ond symudodd i Gymru pan yn blentyn ifanc

Derbyniodd Amanaki y diagnosis ym mis Hydref 2015, cyn symud i Seland Newydd heb ei deulu yn hwyrach yn y mis.

Ychwanegodd: "Derbyn dialysis yn Seland Newydd yw ei unig obaith o oroesi, a heb y driniaeth ni fyddai yma heddiw,"

"Fel teulu a chymuned rydyn ni wedi codi arian i helpu gyda'r gost dros y tair blynedd ddiwethaf, ond mae rhan fwyaf o'r driniaeth wedi cael ei gyllido gan y bwrdd iechyd, ac mae bellach mewn dyled iddynt."

Ffynhonnell y llun, Gofundme/ Toby Faletau

Disgrifiad o'r llun, Mae mam Amanaki wedi bod yn codi arian drwy werthu crefftau cartref

Mae Amanki wedi gwneud cais i ddod yn drigolyn parhaol yn Seland Newydd, fydd yn golygu y byddai'r driniaeth am ddim, a gallai Amanaki gael ei roi ar y rhestr aros ar gyfer trawsblaniad.

Ond wrth iddo orfod aros, mae'r costau meddygol yn dal i godi, ac mae wedi derbyn cyngor y dylai dalu ei ddyled o NZ$ 100,000 (拢50,000) cyn prosesu ei gais am visa.

"Mae hi wedi bod yn dair blynedd anodd iawn i Amanaki a'i fam Lia sydd wedi cael eu gwahanu o weddill y teulu, sydd yn parhau i fyw yn Tonga, a cheisio delio gyda dyled gynyddol a phryder am statws eu cais," meddai.

"Os caiff y cais ei wrthod a bod Amanaki yn cael ei orfodi yn 么l i Tonga, yna bydd hi'n fater o wythnosau tan fod y salwch yn ei ladd."

Dywedodd Faletau ei fod yn obeithiol os byddai hanner y ddyled 拢50,000 yn cael ei dalu, yna gallai'r cais am visa gael ei dderbyn.