Digwyddiad yn y Senedd i gofio marwolaeth Carl Sargeant

Bydd Aelodau Cynulliad yn cynnal cyfarfod preifat yn y Senedd ddydd Mercher i nodi blwyddyn ers marwolaeth y cyn-weinidog Llafur Carl Sargeant.

Dywedodd cadeirydd y gr诺p o ACau Llafur, Vicky Howells, eu bod nhw'n gweld eisiau cwmni cyn-aelod Alun a Glannau Dyfrdwy.

Pedwar diwrnod ar 么l iddo gael ei ddiswyddo o gabinet Carwyn Jones ym mis Tachwedd y llynedd, cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah.

Collodd Mr Sargeant ei swydd fel gweinidog yn dilyn honiadau o aflonyddu rhywiol yn ei erbyn.

Y gred yw iddo ladd ei hun.

Bydd cwest i'w farwolaeth yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y mis.

Fe fydd y cwest yn clywed tystiolaeth gan ei deulu a'i gyd-weithwyr yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Fe wnaeth marwolaeth Mr Sargeant arwain at gyfres o ymchwiliadau, ac mae un o'r rhain yn dal heb ddechrau eu gwaith.

'Tawelwch meddwl yn anodd'

Dywedodd AS Llafur, Mark Tami, ei bod yn anodd cael tawelwch meddwl yngl欧n 芒 marwolaeth ei ffrind, a hynny am nad yw'r ymchwiliad i'r digwyddiad wedi dechrau.

"Dyw'r ymchwiliad ddim wir wedi dechrau, ac mae hynny'n golygu bod cael tawelwch meddwl yn anodd iawn," meddai.

Cafodd yr ymchwiliad ei gyhoeddi gan Mr Jones yn dilyn pwysau gan wleidyddion Llafur fel Mr Tami.

Ond dyw heb ddechrau eto oherwydd bod teulu Mr Sargeant eisiau i'w cyfreithwyr gael yr hawl i groesholi tystion.

'Personoliaeth anferth'

Cafodd Carl Sargeant ei ddisgrifio gan Vicky Howells fel "ffrind i bawb a chydweithiwr arbennig".

Ychwanegodd Ms Howells eu bod nhw fel gr诺p o ACau Llafur yn meddwl am deulu Carl Sargeant a'i holl ffrindiau ledled Cymru.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies: "Roedd Carl yn bersonoliaeth anferth yn y Cynulliad, ac fe wnaeth e gyfraniad sylweddol i wleidyddiaeth Cymru.

"Blwyddyn ers ei farwolaeth mae'n dal yn sefyllfa anodd.

"Mae'r teulu, y Cynulliad, a phobl Cymru yn dal i aros am atebion i'r amgylchiadau sy'n ymwneud 芒'i farwolaeth.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr atebion yn dod i'r wyneb mewn ffordd deg, gyfreithiol ac agored."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Mae hi wedi bod yn bennod anodd a thywyll yng ngwleidyddiaeth Cymru."

Cafodd Jack Sargeant ei ethol yn AC Alun a Glannau Dyfrdwy yn dilyn isetholiad ym mis Chwefror 2018, gan olynu ei dad.