Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymeradwyo cynlluniau gorsaf fysiau newydd Caerdydd
Mae cynlluniau ar gyfer gorsaf fysiau newydd gwerth 拢100m a bloc o fflatiau 22 llawr yng nghanol Caerdydd wedi cael eu cymeradwyo.
Bydd yr orsaf, sy'n cynnwys 14 safle unigol i fysiau, yn cael ei hadeiladu gyferbyn 芒 safle'r hen orsaf ar faes parcio Marland House.
Mae'r datblygiad hefyd yn cynnwys 305 o fflatiau, swyddfeydd, unedau manwerthu a maes parcio preifat fydd yn rhan o gartref newydd y 91热爆 yn y Sgw芒r Canolog.
Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd benderfynu cymeradwyo'r datblygiad mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Er bod cynlluniau amlinellol ar gyfer yr orsaf fysiau eisoes wedi cael eu cymeradwyo gan gynghorwyr, dyma oedd y tro cyntaf i'r holl ddatblygiadau gael eu cynnwys gan y datblygwyr, Rightacres.
Mae'r datblygiad yn rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Rightacres a Network Rail.
Mae rhai wedi beirniadu'r cynlluniau, gydag amheuon fod y safle yn rhy fach ac y byddai'n ychwanegu at lygredd a thagfeydd yn y brifddinas.
Dywedodd Cymdeithas Ddinesig Caerdydd eu bod yn rhagweld "traed moch" yn yr orsaf ar amseroedd prysur oherwydd targedau cyrraedd a gadael afrealistig.
Yn 么l swyddogion y cyngor, bydd yr orsaf yn derbyn saith bws pob awr yn ystod yr amseroedd prysuraf, gyda gwasanaethau eraill yn defnyddio safleoedd ar y strydoedd.
Byddai modd lleihau lefel y llygredd o'r gyfnewidfa drwy ddefnyddio mwy o gerbydau hybrid neu drydan, meddai'r swyddogion.
Bydd yr orsaf newydd yn cael ei rheoli gan gorff trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru.
Ychwanegodd yr adroddiad cynllunio fod gan Network Rail "obeithion hir dymor" o uwchraddio gorsaf drenau Caerdydd Canolog hefyd.