Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y rhan chwaraeodd pêl-droed ar ddiwedd y Rhyfel Mawr
Sut roedd y dynion ifanc oedd yn dod adref o'r brwydro a'r lladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn dygymod â dod nôl i fyw mewn cymdeithas a cheisio byw'n normal ar ôl eu profiadau ofnadwy?
Mae'n bosib fod pêl-droed wedi bod yn rhywfaint o help i rai o'r milwyr ifanc ailafael yn eu bywyd wedi'r rhyfel yn ôl Dr Meilyr Emrys.
"Mi fuodd y rhyfel yn y tymor byr yn gatalydd i dŵf pêl-droed yng Nghymru," meddai Dr Emrys, sydd wedi astudio effeithiau'r Rhyfel Mawr ar bêl-droed yng Nghymru.
"Roedd mynd i wylio pêl-droed yn rhywbeth poblogaidd iawn eto, y teimlad o allu perthyn i rywbeth, sefyll ochr yn ochr efo pobl o'r un pentref neu dref â chi yn cefnogi'r tîm lleol.
"Yn ystod y rhyfel, roedd byddin Prydain wedi bod yn annog ei milwyr i chwarae pêl-droed yn eu hamser sbâr ac felly roedd cael ymuno efo tîm pêl-droed ar ôl dod yn ôl yn rhoi rhyw fath o frawdoliaeth iddyn nhw - efallai'r un math o frawdoliaeth ag yr oedden nhw wedi ei gael pan oedden nhw yn y ffosydd - y teimlad yma o berthyn i rywbeth.
"Hefyd roedd gan bobl fwy o arian i'w wario ar adlonant yn syth ar ôl y rhyfel ac roeddan nhw'n defnyddio hwnnw i fynd i weld gemau."
Teimlad o berthyn
Roedd gwylio'r clwb pêl-droed lleol yn trechu timau o drefi a dinasoedd eraill yn rhoi cyfle i bobl ddathlu a llawenhau ar ôl erchyllterau'r rhyfel ac yn rhoi teimlad o bwrpas ac o berthyn meddai Dr Emrys.
"Ar yr un trywydd, wrth iddyn nhw sylweddoli nad oedd y wlad yr oeddent wedi dychwelyd adref iddi yn 'addas i arwyr' - ac wrth felly iddynt gwestiynu beth yn union oedd pwrpas yr holl ladd a dinistr yr oedden nhw wedi gorfod bod yn rhan ohono - mae'n debyg bod y broses o fynd ati i gefnogi clwb pêl-droed hefyd wedi bod yn gymorth i rai cyn-filwyr ailganfod eu traed yn dilyn y rhyfel," meddai.
"Pan ddaru nhw ailddechrau'r cynghreiriau lleol, fe wnaeth nifer o dimau yn y flwyddyn gyntaf alw eu hunan yn Comrades of the Great War," meddai Dr Emrys.
"Hogiau ifanc oedd rhain oedd wedi bod yn chwarae rhywfant o bel-droed cyn mynd i ffwrdd i ymladd yn y rhyfel."
Un o'r timau hynny oedd y Bethesda Comrades of the Great War a gafodd eu hanfarwoli fel tîm y Celts yn nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, yn bennaf oherwydd ffeit enwog a ddigwyddodd ar y cae yn ystod un o'u gemau.
Mewn gêm rhwng y Comrades a'r Holyhead Reserves yn 1920 fe gollodd y gôl-geidwad Thomas Morris (Wil Robaits Gôl yn Un Nos Ola' Leuad) ei dymer efo'r reffarî ac ymosod arno cyn i bawb ymuno yn yr ymladd nes bod rhaid ffonio'r heddlu. Fe gafodd Thomas Morris ei arestio a'i wahardd rhag chwarae pêl-droed am dri mis.
Yn ôl Meilyr Emrys mae'n bosib mai effaith erchyllterau ymladd yn y rhyfel oedd yn gyfrifol am ymateb gwyllt ar y cae pêl-droed.
"Un theori ynglŷn a'r parodrwydd yma i fynd yn flin gan chwarewyr ac ymosod ar raffarîs yn y cyfnod yma oedd ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i bobl oedd wedi bod i ffwrdd yn y ffosydd yn ymladd ac roedden nhw'n trïo ymdoddi nôl i fywyd bob dydd ac ella bod na fwy o barodrwydd iddyn nhw 'snapio' ac ymddwyn mewn ffyrdd reit fygythiol a chorfforol," meddai.
"Pan mae rhywun yn stopio i feddwl am y Rhyfel Byd Cyntaf a scale yr holl beth a'r ffaith bod miloedd ar filoedd o ddynion ifanc heini wedi cael eu tynnu allan o gymdeithasau dros Brydain, yr Almaen a rhannau eraill o Ewrop - mae scale y peth yn anhygoel.
"A wedyn bod y bobl ifanc yma, y rhai oedd yn ddigon lwcus i ddod yn ôl wedyn, wedi gorfod setlo nôl i fywyd bob dydd a gwneud pethau roeddwn nhw'n eu gwneud cynt, fel chwarae pêl-droed, mynd yn ôl i'w swyddi, gweithio yn y chwarel.
"Drwy ailgreu'r frawdolaeth yma o sefyll ochr yn ochr, 'brwydro' ar faes pêl-droed efo dy ffrindiau, roedd yn help i allu setlo mewn a gwneud sens o dy le di yn y byd wrth ddod yn ôl i mewn iddo fo."
Er mai byrhoedlog oedd yr hwb, gyda dirwasgiad y 1920au yn rhoi diwedd ar y ffyniant, am gyfnod, roedd yn oes aur yng Nghymru: daeth y tîm cenedlaethol yn bencampwyr gwledydd Prydain ar ôl trechu Lloegr am y tro cyntaf ers bron i 40 mlynedd; ymunodd rhai o glybiau Cymru â'r Gynghrair Bêl-droed am y tro cyntaf a sefydlwyd toreth o glybiau proffesiynol newydd, yn enwedig yn y de ddwyrain diwydiannol a thyfodd maint y tyrfaoedd oedd yn gwylio pêl-droed yng Nghymru.
Denai Caerdydd dros 30,000 yn gyson yn ystod tymor 1921-22; roedd torf o 6,000 yn gwylio rownd derfynol Cwpan Amatur Arfordir Gogledd Cymru ym Mangor yn 1923 a gwyliodd cyfanswm o 20,000 o bobl y dair gêm rhwng yr Wyddgrug a'r Fflint yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Efallai o ddiddordeb: