Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru v Alban: Treialu parth di-alcohol yn y stadiwm
Am y tro cyntaf erioed bydd parth di-alcohol yn Stadiwm y Principality ar gyfer g锚m rygbi rhyngwladol wrth i Gymru baratoi i wynebu'r Alban yng Nghyfres yr Hydref.
Bydd ail lawr eisteddle'r gogledd yn ddi-alcohol, gyda swyddogion y stadiwm yn rhybuddio cefnogwyr am bwysigrwydd cyrraedd yn gynnar ar gyfer y g锚m.
Mae modd mynd fewn i'r stadiwm dair awr cyn y gic gyntaf sydd am 14:45 ac fe ddylai cefnogwyr ddisgwyl mesurau diogelwch llym cyn cael mynediad.
Mae'r giatiau ar agor 90 munud yn gynt na'r arfer, ac yn 么l rheolwr y stadiwm, Mark Williams, mae hynny er mwyn "hwyluso gwaith y stiwardiaid i brosesu cefnogwyr yn ddiogel".
'Profiad gorau i gefnogwyr'
Yn 么l Martyn Phillips o Undeb Rygbi Cymru, fe fydd y parth di-alcohol yn cael ei dreialu am bedair g锚m, yn dilyn y galw amdano gan rai cefnogwyr.
"Rydym eisiau i Stadiwm y Principality gynnig y profiad gorau i gefnogwyr ac rydym yn gwybod bod hynny'n golygu rhywbeth gwahanol i wahanol bobl.
"Fe fydd y cynllun yma'n cael ei dreialu am bedair g锚m a byddwn yn gwrando ar gefnogwyr cyn penderfynu sut i esblygu'r syniad yma," meddai.
Bydd ffyrdd canol y ddinas i gyd ar gau o 11:15 hyd at 17:45. Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gi芒t 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas:
- Ffordd y Brenin o'r gyffordd 芒 Heol y Gogledd i'r gyffordd 芒 Heol y Dug;
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd 芒 Heol y Gadeirlan i'r gyffordd 芒 Heol y Porth;
- Stryd Tudor o'r gyffordd 芒 Clare Road i'r gyffordd 芒 Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment);
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd 芒 Despenser Place i'r cyffyrdd 芒 Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr);
- Heol Saunders o'r gyffordd 芒 Heol Eglwys Fair;
- Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat);
- Heol Penarth o'r gyffordd 芒 Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgw芒r Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Mae Network Rail yn rhoi gwybod i gwsmeriaid nad oes gwaith peirianneg wedi'i gynllunio yng Nghymru, felly ni ddisgwylir tarfu ar y llinell rhwng Llundain a Chaerdydd.
Bydd system giwio ar waith ar 么l y g锚m yng Ngorsaf Caerdydd Canolog a Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd.
Mae dau enw newydd yn y t卯m o 23 sydd wedi'i enwi gan Gymru gyda Luke Morgan yn dechrau'r g锚m ar yr asgell tra bod y maswr, Jarrod Evans yn dechrau ar y fainc.
Alun Wyn Jones fydd y capten, ac yn absenoldeb Dan Biggar a Rhys Patchell fe fydd Gareth Anscombe yn dechrau yn safle'r maswr.
T卯m Cymru v Yr Alban:
Olwyr:
Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Luke Morgan, Gareth Anscombe, Gareth Davies;
Blaenwyr:
Nicky Smith, Ken Owens, Dillon Lewis, Cory Hill, Alun Wyn Jones (capten), Dan Lydiate, Justin Tipuric, Ross Moriarty.
Eilyddion:
Elliot Dee, Rob Evans, Leon Brown, Adam Beard, Aaron Wainwright, Tomos Williams, Jarrod Evans, Steff Evans.