Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cefnogaeth 'anhygoel' i Doddie Weir yng Nghymru
Mae'r cyn-chwaraewr rygbi Doddie Weir wedi dweud ei fod wedi derbyn cefnogaeth "anhygoel" yng Nghymru yn arwain at y g锚m rhwng Cymru a'r Alban.
Ddechrau'r wythnos cafodd undebau rygbi'r ddwy wlad eu beirniadu pan ddaeth i'r amlwg na fydden nhw'n cyfrannu arian o'r g锚m yn uniongyrchol tuag at elusen yn enw Mr Weir.
Cwpan Doddie Weir fydd y tlws i'r t卯m buddugol pan fydd y ddwy wlad yn cwrdd yn Stadiwm Principality yng ng锚m gyntaf cyfres yr hydref ddydd Sadwrn.
Mae'r g锚m ar gyfer Sefydliad My Name'5 Doddie, a sefydlwyd wedi i gyn-glo'r Alban gael diagnosis o glefyd motor niwron.
Ond bellach mae'r undebau wedi cadarnhau y bydd swm "chwe ffigwr" yn cael ei roi i'r elusen, ac y bydd hynny ochr yn ochr ag ymgyrch i godi arian y tu allan i'r stadiwm.
Cymorth tu 么l i'r llenni
Wrth gael ei holi ar raglen Good Morning Wales ar 91热爆 Radio Wales, dywedodd Mr Weir: "Wyddwn i ddim os oedd [penderfyniad gwreiddiol yr undebau] yn ddiofalwch, ond tu 么l i'r llenni maen nhw wedi bod o gymorth mawr.
"'Dyn ni yma am benwythnos da yng Nghymru - mae'r gefnogaeth yma wedi bod yn anhygoel.
"Dwi wedi fy nghyffroi'n l芒n am y g锚m. Mae Stadiwm Principality yn stadiwm sbesial iawn."