Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwrthdrawiad A40: Teyrnged i ferch 4 oed a fu farw
Mae teulu merch 4 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A40 ger Caerfyrddin wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Darcy-May Elm, o Swanage yn Dorset, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A40 yn Llanllwch ar 27 Hydref.
"Rydym wedi torri ein calonnau o golli Darcy-May," meddai'r datganiad.
Mae ei rhieni, a gafodd eu hanafu yn ystod y gwrthdrawiad, yn dal i fod yn yr ysbyty.
Cafodd ei disgrifio gan ei theulu fel "merch ac wyres hyfryd ac annwyl" ac fel "merch ddireidus, gariadus".
Dywedodd y teulu: "Byddwn yn hiraethu amdani'n arw."
Mae'r teulu hefyd wedi diolch i bawb am eu cefnogaeth ac yn gofyn am breifatrwydd i alaru.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un fu'n dyst i'r gwrthdrawiad i gysylltu 芒 nhw drwy ffonio 101.