Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gething yn galw am ymchwiliad i farwolaethau Cwm Taf
Mae'r ysgrifennydd iechyd yn galw am ymchwiliad llawn i Fwrdd Iechyd Cwm Taf yn dilyn 43 achos 芒 "chanlyniadau niweidiol" ers dechrau 2016.
Roedd 20 achos o enedigaethau marw a chwe achos o fabanod yn marw yn fuan wedi iddynt gael eu geni.
Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud bod cynnal lefelau priodol o staff yn ei ysbytai wedi profi'n "heriol iawn".
Cafodd ymchwiliad mewnol ei gyhoeddi ddydd Iau, wedi i'r bwrdd iechyd sylwi ar gwymp yn nifer yr achosion difrifol yn cael eu hadrodd.
Diogelwch o'r pwysigrwydd mwyaf
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ei fod yn cydnabod bod y bwrdd iechyd wrthi'n cymryd camau i sicrhau bod "gwasanaethau yn cael eu cefnogi'n syth".
"O ganlyniad i ddifrifoldeb y sefyllfa, rwyf wedi penderfynu y dylai ymchwiliad allanol gael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru," meddai.
Mae Mr Gething wedi galw ar brif swyddogion meddygol a nyrsio Cymru i gysylltu gyda Choleg Obstetreg, Gynecoleg a Bydwreigiaeth i fynnu ymchwiliad.
Dywedodd Mr Gething: "Rwy'n rhannu pryderon pawb am ddifrifoldeb y mater a'r angen am sicrwydd.
"Mae diogelwch cleifion o'r pwysigrwydd mwyaf i fi'n bersonol ac i GIG Cymru. Ein prif bryder nawr yw lles y mamau a'r babanod."
Dywedodd yr Athro Angela Hopkins, Cyfarwyddwr dros dro Nyrsio Cwm Taf eu bod wedi cynnal ymchwiliadau, a'u bod am gynnig "ymrwymiad i'r teuluoedd ein bod yn darparu gwasanaeth ddiogel wrth symud ymlaen".
"Yn yr achosion yr ydym yn gweld problemau, fe fyddwn yn cysylltu gyda'r teuluoedd ac yn cefnogi'r teuluoedd hynny, yn ymddiheuro ac ailedrych ar y system."
Daeth y problemau i'r amlwg yn dilyn pryderon nad oedd staff yn adrodd nac yn amlygu digwyddiadau difrifol.
Yn 么l yr Athro Hopkins: "Rydym wedi ei weld yn heriol iawn cadw lefelau staffio'n ddigonol. Ni chafodd rai pethau eu hadrodd am nad oedd yn cael ei weld ar y pryd fel rhywbeth i'w adrodd.
"Dydw i ddim yn dweud bod unrhyw un o'n staff yn cuddio digwyddiadau o gwbl. Mae gennym staff gwych, ac maen nhw'n gweithio dan bwysau aruthrol."
Dywedodd llefarydd ar ran Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi ein hysbysu am broblemau yn ymwneud 芒 gwasanaethau mamolaeth a byddwn yn ystyried y wybodaeth yn llawn cyn penderfynu ar sut i weithredu."