Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bro360: Lansio cynllun gwefannau lleol
Datblygu rhwydwaith o wefannau bro yw nod cynllun peilot fydd yn cael ei lansio yn y Senedd ddydd Mercher.
Fel rhan o'u dathliadau pen-blwydd yn 30 oed, mae cwmni Golwg wedi sicrhau cefnogaeth ar gyfer prosiect i arbrofi gyda ffyrdd o greu gwefannau Cymraeg mewn dwy ardal yn y gogledd a'r gorllewin.
Gobaith y cwmni yw creu patrwm all gael ei ddilyn yn ddiweddarach ar draws y wlad.
Bydd y cynllun - Bro360 - yn cael ei lansio yn y Senedd ym Mae Caerdydd gyda digwyddiadau eraill i ddilyn yn y ddwy ardal dan sylw: cylch Aberystwyth a gogledd Ceredigion, ac ardal Caernarfon, Bangor a'r dyffrynnoedd llechi.
Swyddi newydd
Fe fydd ychydig dros 拢250,000 y flwyddyn ar gael er mwyn:
- Datblygu ac adeiladu gwefan newydd;
- Adeiladu'r rhwydweithiau a chynnal y gweithgarwch dros bedair blynedd;
- Pwyso a mesur pa ddulliau sy'n gweithio orau;
- Datblygu cynlluniau ar gyfer lledu'r syniad ar draws Cymru gyfan;
- Datblygu cynllun busnes ar gyfer parhad y rhwydwaith yn y tymor hir.
Dywedodd golygydd gyfarwyddwr cwmni Golwg, Dylan Iorwerth: "Mi greodd y papurau bro chwyldro o ran y Gymraeg yn y ganrif ddiwetha'; mae'n bryd creu chwyldro arall yn y ganrif newydd, efo'r cyfryngau newydd.
"Y nod ydi creu llwyfannau ar gyfer gweithgarwch yr ardaloedd yma, trwy bopeth o Instagram, Twitter a Facebook i ffeiliau fideo a sain a straeon a lluniau newyddion - creu lle ar y we i gymunedau Cymraeg."
Fe fydd pump o swyddi newydd yn cael eu creu yn rhan o'r prosiect pedair blynedd sydd wedi cael nawdd trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru: Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.