Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymraeg y Wladfa a Chymraeg Cymru - beth yw'r gwahaniaethau?
Os ydych chi 芒'ch bryd ar fynd i ymweld 芒'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, naill ai i weithio neu ar wyliau, efallai byddai'n ddefnyddiol chi ddysgu ychydig o'r iaith.
Nid y Sbaeneg (er y byddai hynny'n syniad da hefyd) ond Cymraeg arbennig y Wladfa.
Dydi llawer o bobl y Wladfa ddim yn gwisgo fest, bwyta pwmpen nac yn mynd am dro. Yn hytrach, 'singlet', 'poncin' a 'mynd i baseando' fyddai nifer o'r to h欧n yn ei ddweud.
Dros 150 o flynyddoedd ers i Gymry sefydlu gwladfa yn yr Arannin mae'r Gymraeg aeth yno efo nhw wedi newid a datblygu yn ei ffordd ei hun.
Mae Dr Iwan Wyn Rees yn arbenigwr tafodieithoedd sydd wedi astudio tafodiaith y Wladfa ac mae'n awgrymu ei bod yn bryd i'r llyfrau sy'n cael eu defnyddio mewn gwersi Cymraeg yno adlewyrchu'r dafodiaith arbennig sydd wedi datblygu yno.
Dylanwad Sbaeneg
Sbaeneg yw prif iaith swyddogol yr Ariannin a dyna un o'r rhesymau am y gwahaniaethau.
"Maen nhw'n defnyddio geiriau Sbaeneg yn hollol naturiol yn eu sgwrs," meddai Dr Iwan Wyn Rees.
"Weithiau mae'n amlwg iawn ond weithiau mae 'na bethau sy'n swnio'n hollol Gymreig neu Wladfaol, ond dylanwad y Sbaeneg ydy o".
Enghreifftiau o'r geiriau Sbaeneg hynny ydy:
- Corral - corlan
- Asado - math o farbaciw gyda darnau mawr o gig
- Paseando - mynd am dro
- Bueno - Da. Ynghanol sgwrs Gymraeg fe fyddan nhw'n dweud 'bueno' ar ddechrau brawddeg yn aml yn debyg i 'wel', gennym ni.
- Este a No - geiriau llanw eraill ar ddiwedd ac ynghanol brawddeg.
- Hectarea - lle fydden ni yn s么n am aceri neu erwau maen nhw'n aml yn s么n am 'hectarea' (tua 2.5 acer)'.
Mae yna ymadroddion sy'n dilyn cystrawen Sbaenaidd hefyd:
- Siarad 'drwy'r' ff么n - "Rydyn ni'n dweud ein bod ni'n siarad 'ar' y ff么n ond mae siarad 'drwy'r' ff么n yn dod o'r Sbaeneg - hablar por telefono.
- Pasiwch - Lle fydden ni'n dweud 'dewch i mewn i'r t欧' fe fydden nhw'n dweud 'pasiwch- dylanwad pase y Sbaeneg.
- Tan tro nesa - Yn lle 'hwyl' wrth ffarwelo. 'Tan fory' hefyd. Mae dweud pryd fyddwch chi'n eu gweld nhw eto yn ffordd gyffredin iawn o orffen sgwrs yn Sbaeneg - hasta ma帽ana, hasta la proxima.
- Costio - "Ro'n i wedi 'sgrifennu llythyr ond roedd o'n costio i fi" - roedd yn drafferth neu ddim yn hawdd mi - dylanwad 'me cost贸' mewn Sbaeneg.
- Welsoch chi - Mae 'Welsoch' chi a 'welast ti', yn gyffredin iawn fel gair llanw ar ddiwedd brawddeg e.e. 'Dwi'n mynd i'r dre rwan welsoch chi' Dylanwad Sbaeneg yr Ariannin - viste.
Pa dafodaith?
Mae rhai ymwelwyr yn credu bod acen y Wladfa yn debyg i acen canolbarth Cymru.
Cyd-ddigwyddiad yw hynny meddai Dr Rees, oherwydd y ffordd mae'r llafariaid 'o' ac 'e' yn cael eu hynganu mewn Sbaeneg.
Daeth y Cymry cyntaf i Batagonia ar long y Mimosa yn 1865 ac roedden nhw o wahanol ardaloedd o Gymru.
Felly nid un dafodiaith sydd wedi goroesi yno, mae cyfuniad o dafodieithoedd o wahanol ardaloedd yng Nghymru wedi cymysgu, a hynny wedi arwain at greu tafodiaith Gymraeg newydd sy'n unigryw i Batagonia, meddai Dr Rees.
"Byddai 'na dafodieithoedd o bob rhan o Gymru, o'r gogledd, o'r gorllewin, a'r rhan fwyaf o ardaloedd glofaol y de ddwyrain, ar y Mimosa," meddai Dr Rees.
"Byddai yna wahaniaethau mawr a be' fyddai wedi digwydd dros y degawdau cyntaf fyddai lefelu tafodieithol.
"Byddai nifer o wahaniaethau wedi lleihau ac fe fyddai pobl wedi dod i siarad ychydig tebycach i'w gilydd."
Ond er bod cynifer o bobl o dde ddwyrain Cymru, dangosodd astudiaethau gan yr ieithydd Robert Owen Jones yn y 1970au fod llawer o eirfa 'gyson' y Wladfa yn rhai gogleddol.
Geiriau gogleddol y Wladfa:
- 'allan' nid 'mas';
- 'cur pen' nid 'pen tost';
- 'fo' nid 'fe;
- 'fyny' nid 'lan';
- 'nain a taid' yn hytrach na 'tadcu a mamgu'.
Ond mae yna eithriadau meddai Dr Rees.
Geiriau deheuol
- 'ffwrn' nid 'popdy'
- 'llaeth' nid 'llefrith'
- 'march' nid 'stalwyn'
Y gred yw mai'r rheswm dros boblogrwydd y geiriau gogleddol ydy bod y rhan fwyaf o arweinwyr cynnar y Wladfa o'r gogledd.
"Roedd y rhan fwyaf o'r gweinidogion wedi dod o'r gogledd hefyd felly mae'n ymddangos bod iaith yr arweinwyr yn ogystal 芒 dylanwad y beibl wedi bod yn ddylanwadol iawn," meddai Dr Rees.
Ydyn nhw'n ein deall ni?
Oes yna bethau na fyddai siaradwr Cymraeg yn y Wladfa yn ei ddeall am Gymraeg Cymru?
- 'troi'r golau mlaen' - Maen nhw'n synnu clywed pobl o Gymru'n dweud hyn, 'cynnu'r golau' fyddan nhw - a 'diffodd' y golau.
"Ymhlith yr hen bobl dw'n meddwl ein bod yn ofni gormod yngl欧n 芒 defnyddio Saesneg yn ein Cymraeg achos mae llawer ohonyn nhw wedi cael rhywfaint o addysg Saesneg.
"Ond mae llawer o eiriau eraill sydd 芒 gwreiddiau Saesneg yn cael eu defnyddio'n naturiol yng Nghymraeg y Wladfa, sy'n awgrymu eu bod yn cael eu defnyddio yng Nghymru yn 1865 hefyd.
Ymhlith y rhain mae 'bathrwm', geiriau am ffrwythau a llysiau - 'carots', 'cabets', 'plyms', 'peaches', 'rwm ffrynt' neu 'rwm fawr'.
"Mae'n dangos nad pethau diweddar i'r Gymraeg ydy hyn," meddai Dr Rees.
"Mae'n amlwg bod y rhain wedi gwreiddio'n gynnar yn hanes y Wladfa."
Mae Dr Rees yn galw am gyflwyno'r dafodiaith leol yn y gwerslyfrau a'r dosbarthiadau ac mae wedi datblygu
"Mae na 20 mlynedd wedi mynd o'r cynllun dysgu Cymraeg ac mae hwnnw wedi bod yn llwyddiant ysgubol," meddai wrth 91热爆 Cymru Fyw.
"Ond rydw i'n edrych r诺an i'r dyfodol a'r 20 mlynedd nesa'.
"Mae yna le i iaith safonol - mae'n rhaid ei gyflwyno weithiau er mwyn i ddysgwyr y Wladfa ddeall y geriau sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru.
"Ond does dim byd o'i le ar gyflwyno geiriau'r Gwladfawyr yn y cyrsiau.
"I raddau, mi fydd y rheiny sydd wedi cael magwraeth Gymraeg yn ein gadael ni a dim ond y rheiny sydd wedi dysgu drwy'r cynllun fydd ar 么l.
"Felly mae'n gyfnod ofnadwy o bwysig i fanteiso ar y bobl sydd wedi cael magwraeth Gymraeg, dyma'r cyfle i drosglwyddo ychydig o dafodiaith gynhenid y Wladfa i'r genhedlaeth newydd."
"Gallai arwain at brosiectau diddorol - ewch i holi be 'di gair eich nain a'ch taid am y geiriau yma. Mae na'n dal gyfle.
"Dydy'r awydd i adfer iaith a balchder mewn tafodiaith ddim yn bethau sydd ar wah芒n, maen nhw'n mynd law yn llaw."
Hefyd o ddiddordeb: