Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Mam a mab yn llwyddo mewn sioe harddwch
Mae Shannon a'i mab bach Bentley o Borthmadog newydd ennill y gwobrau Miss Belle a Little Master Belle Cymru 2018 mewn pasiant harddwch cenedlaethol.
Maen nhw nawr yn cael y cyfle i gystadlu mewn pasiant rhyngwladol yn Sbaen y flwyddyn nesaf.
Sut ddechreuodd hyn i gyd?
"Nathon ni gystadlu yng Ngharnifal Llanberis ac roedd Bentley wedi mwynhau gwisgo i fyny a ddaeth o'n ail. Ac roedd o isho gneud eto - ond doedd na'm carnifal tan haf nesa' felly nes i edrych mewn i basiantau.
"Dydyn nhw ddim yn boblogaidd yn yr ardal yma, felly 'dan ni wedi cystadlu mwy yn ardal Wigan."
Sut beth oedd y profiad o gystadlu yn y pasiant?
"Roedd yna rownds gwahanol, lle oddan ni'n gwisgo mathau gwahanol o ddillad, ac roedd 'na gyflweliad efo fi. Roedd pawb mor gyfeillgar, hyd yn oed y beirniaid.
"Roedd Bentley wrth ei fodd! Mae o r锚l cymeriad - doedd o ddim isho dod off y llwyfan - roedd rhaid i'w dad o ei 么l o i ffwrdd!
Beth fyddwch chi yn ei wneud yn y pasiant rhyngwladol yn Alicante fis Ebrill nesa'?
"Fydd 'na wythnos o hyfforddi, a byddwn ni'n cael mynd i bart茂on a water parks ac yn cael photoshoots ar lan y m么r, a chyfarfod pobl newydd. Mae Bentley mor excited!
"Rhaid i ni neud 30 o appearences cyn mynd, er mwyn codi ymwybyddiaeth am y pasiant ac i godi arian i elusen sy'n helpu teuluoedd efo plant s芒l yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl.
"Eleni mae Belle Pageant wedi codi dros 拢20,000 i'r elusen. 'Dan ni'n mynd i ymweld mis Rhagfyr - fydd o'n dda i Bentley gael cyfarfod y plant."
Beth yw ymateb gweddill y teulu i'r pasiantau?
"Doedd y teulu ddim yn si诺r i ddechra, achos doddan nhw ddim yn gwybod sut fasan ni'n teimlo 'sa ni'n colli - ond nathon ni ennill diolch byth!
"Mae fy merch i, Everly, yn chwe mis oed ac mae hi'n cystadlu hefyd. Dwi 'chydig bach yn obsessed ar hyn o bryd! O'n i isho cystadlu pan o'n i'n iau ond do'm i'm yn cael, felly mae hyn yn gr锚t!"